A85479:413
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Darllen rhyw gyfran o Air Duw, neu Lyfrau da eraill.
2. Myfyrio ar yr hyn a glywsoch ac a ddarllennasoch y did kwnnw; yr hyn sydd fodd rhagorol i wneuthur y Gair a ddarllenner ac a bregether in fuddiol i chwi. Canys megis am fwyd, er jached fyddo, nid yw in ein maethu, oddieithr iddo ddygymmod â ni a threulio in ein cylla: felly y mae am Air Duw, ymborth ein eneidiau ni, oddieithr ei dreulio a'i ddosparthu drwy fyfyrdod, ni wnaiff ef ronyn o lês i ni; onid ar ôl ei dreulio drwy fyfyrdod, yna y bid ef in rymmus i faethu ein eneidiau ni.
2. Myfyrio ar yr hyn a glywsoch ac a ddarllennasoch y dydd kwnnw; yr hyn sydd fodd rhagorol i wneuthur y Gair a ddarllenner ac a bregether yn fuddiol i chwi. Canys megis am fwyd, er iached fyddo, nid yw yn ein maethu, oddieithr iddo ddygymmod â ni a threulio yn ein cylla: felly y mae am Air Duw, ymborth ein eneidiau ni, oddieithr ei dreulio a'i ddosparthu drwy fyfyrdod, ni wnaiff ef ronyn o lês i ni; onid ar ôl ei dreulio drwy fyfyrdod, yna y bydd ef yn rymmus i faethu ein eneidiau ni.
3. Eich holy eich hunain, megis am eich buchedd, ach ymarweddiad gynt, felly in enwedigol am eich ymddygiad yr wythnos ddiweddaf, ac am y mod y cyflawnasoch ddyledswyddau y diwrnod. Ac megis ac y dylaech ymostwng am eich deffygion ynddynt, felly y dylaech ymroi, drwy gymmorth grâs Duw, ar fod in fwy gwiliadwrus arnoch eich hunain am yr amser i ddyfod, ac i fôd in fwy gofalus in sancteiddio Did yr Arglwydd, drwy fôdd cydwybodus o gyflawni ei ddyledswyddau ef.
3. Eich holi eich hunain, megis am eich buchedd, ach ymarweddiad gynt, felly yn enwedigol am eich ymddygiad yr wythnos ddiweddaf, ac am y modd y cyflawnasoch ddyledswyddau y diwrnod. Ac megis ac y dylaech ymostwng am eich deffygion ynddynt, felly y dylaech ymroi, drwy gymmorth grâs Duw, ar fod yn fwy gwiliadwrus arnoch eich hunain am yr amser i ddyfod, ac i fôd yn fwy gofalus yn sancteiddio Dydd yr Arglwydd, drwy fôdd cydwybodus o gyflawni ei ddyledswyddau ef.