A85479:428
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Cynnorthwyo 'r sáwl sydd mewn eisiau. Yr Apostol wrth gynghori'r Corinthiaid, 1 Cor. 16. 1, 2. I roddi rhyw beth heibio in eu hymyl, gan drysori, bob did cyntaf or wythnos, (yr hwn yw did yr Arglwydd) sy in arwyddocau fod hwnnw in amser cymmwys, nid in unic i wneuthur y eyfryw weithredoedd o drugaredd ar sy in ymgynnyg i ni y pride hynny, and hefyd i baratoi erbyn amseroedd eraill. A diammau, ped fai bob un ar bob dŷdd yr Arglwydd in rhoddi rhyw beth heibio in ei ymyl o'r hyn a ddevai iddo ef i fewn yr wythnos honno, gan drysori peth iw roddi ar achosion o eluseni, y gelid gwneuthur lawyer o ddaioni drwy hynny. Canys megis ac y bid gan ddynion drwy hyn ychwaneg iw roddi, nag y clywent hwy ar eu calonnau oni bay hynny moi wneuthur ar ddyddiau yr wythnos: felly hwy a rodent in helaethach, ac in ewyllysgarach, o herwydd body trysor o'r hwn y maent in rhoddi gwedi ei baratoi ym mlaen law; ac ynteu in Drysor cyssegredig, drwy ei gwaith hwynt ou gwirfôdd in ei neilltuo ef i'r cyfryw ddefnydd, eu cydwybodau ai cyfrif in gyssegr-yspail ei osod ef allan ford arall in y bŷd. Ped fai ddynion tlodion sy in byw ar lafur y diwrnod neu wrth eu gwaith, a gweision a morwynion sy in byw ar eu cyflogau, ar bob did yr Arglwydd in rhoddi in ei hymyl ray dimmelau neu geinhiogau, ir diben a'r arfaeth ymma; gallai fod ganddynt heb ddim colled iddynt eu hunain y gwyddont oddiwrthi, drysor ir tlodion. Pa faint mwy trysor a fyddai ir tlodion, ped fai wŷr cyfoethogion; in ôl y mae Duw in eu bendithio, in gweuthur felly?
1. Cynnorthwyo 'r sáwl sydd mewn eisiau. Yr Apostol wrth gynghori'r Corinthiaid, 1 Cor. 16. 1, 2. I roddi rhyw beth heibio yn eu hymyl, gan drysori, bob dydd cyntaf or wythnos, (yr hwn yw dydd yr Arglwydd) sy yn arwyddocau fod hwnnw yn amser cymmwys, nid yn unic i wneuthur y eyfryw weithredoedd o drugaredd ar sy yn ymgynnyg i ni y pryd hynny, ond hefyd i baratoi erbyn amseroedd eraill. A diammau, ped fai bob un ar bob dŷdd yr Arglwydd yn rhoddi rhyw beth heibio yn ei ymyl o'r hyn a ddeuai iddo ef i fewn yr wythnos honno, gan drysori peth iw roddi ar achosion o eluseni, y gellid gwneuthur llawer o ddaioni drwy hynny. Canys megis ac y bydd gan ddynion drwy hyn ychwaneg iw roddi, nag y clywent hwy ar eu calonnau oni bai hynny moi wneuthur ar ddyddiau yr wythnos: felly hwy a roddent yn helaethach, ac yn ewyllysgarach, o herwydd bod y trysor o'r hwn y maent yn rhoddi gwedi ei baratoi ym mlaen llaw; ac ynteu yn Drysor cyssegredig, drwy ei gwaith hwynt ou gwirfôdd yn ei neilltuo ef i'r cyfryw ddefnydd, eu cydwybodau ai cyfrif yn gyssegr-yspail ei osod ef allan ffordd arall yn y bŷd. Ped fai ddynion tlodion sy yn byw ar lafur y diwrnod neu wrth eu gwaith, a gweision a morwynion sy yn byw ar eu cyflogau, ar bob dydd yr Arglwydd yn rhoddi yn ei hymyl rai dimmelau neu geinhiogau, ir diben a'r arfaeth ymma; gallai fod ganddynt heb ddim colled iddynt eu hunain y gwyddont oddiwrthi, drysor ir tlodion. Pa faint mwy trysor a fyddai ir tlodion, ped fai wŷr cyfoethogion; yn ôl y mae Duw yn eu bendithio, yn gweuthur felly?