A85479:431
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr in hyn y mae daubeth i ddalsulw arnynt y dylid eu gochel in ofalus.
Eithr yn hyn y mae dau beth i ddalsulw arnynt y dylid eu gochel yn ofalus.
1. Ni ddylaech chwi dreulio dim ychwaneg o amser in eu cylch hwynt nag y fyddo in angenrheidiol. O herwydd pa ham wedi i'ch cyrph gael eu llonni â chymmhedrol gwsg, chwi a ddylech geisio codi in foreu ar did yr Arglwydd, megis ynghylch chwech neu saith ar y glôch, a bod cyn brysured ac y bo 'n bossibl in eich tacclu eich hunain; ac nad eisteddoch ddim hŵy nag y bo in rhaid ar eich prydiau bwyd; fell y galloch chwi felly gael ychwaneg ⟨p. 95⟩o amser i gyflawni dyledswyddau Addoliad a gwasanaeth Duw ar ei did ef. Ac in ddiau, gan fod yr Arglwydd mor ddaionus a grasol wrthych, ai fod ef in cyfrannu i chwi ryw gyfran o'i did ei hun o ran llonnychdod i'ch cyrph; pell fyddo oddi wrthych chwi gamarfer ei ddaioni ef, drwy wastraffu ymmaith fwy o amser in hynny nag a fyddo in angenrheidiol.
1. Ni ddylaech chwi dreulio dim ychwaneg o amser yn eu cylch hwynt nag y fyddo yn angenrheidiol. O herwydd pa ham wedi i'ch cyrph gael eu llonni â chymmhedrol gwsg, chwi a ddylech geisio codi yn foreu ar ddydd yr Arglwydd, megis ynghylch chwech neu saith ar y glôch, a bod cyn brysured ac y bo 'n bossibl yn eich tacclu eich hunain; ac nad eisteddoch ddim hŵy nag y bo yn rhaid ar eich prydiau bwyd; fel y galloch chwi felly gael ychwaneg ⟨p. 95⟩o amser i gyflawni dyledswyddau Addoliad a gwasanaeth Duw ar ei ddydd ef. Ac yn ddiau, gan fod yr Arglwydd mor ddaionus a grasol wrthych, ai fod ef yn cyfrannu i chwi ryw gyfran o'i ddydd ei hun o ran llonnychdod i'ch cyrph; pell fyddo oddi wrthych chwi gamarfer ei ddaioni ef, drwy wastraffu ymmaith fwy o amser yn hynny nag a fyddo yn angenrheidiol.