A85479:443
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. O ran eich stâd amserol oddiallan.
2. O ran eich stâd ysprydol oddifewn.
1. Mae sancteiddiad y Sabbath in fuddiol o ran eich stâd amserol oddiallan. Canys po mwyaf cydwybodus ydyw un dŷn in Sancteiddio y did Sabbath, mwyaf bendith a ddichon ef ei disgwyl oddiwrth Dduw ar ei lafur y chwe diwrnod. Canys nid eich llafur a'ch ymboeni eich hunain, onid bendith yr Arglwydd a gyfoethoga, Dih. 10 22.
1. Mae sancteiddiad y Sabboth yn fuddiol o ran eich stâd amserol oddiallan. Canys po mwyaf cydwybodus ydyw un dŷn yn Sancteiddio y dydd Sabboth, mwyaf bendith a ddichon ef ei disgwyl oddiwrth Dduw ar ei lafur y chwe diwrnod. Canys nid eich llafur a'ch ymboeni eich hunain, onid bendith yr Arglwydd a gyfoethoga, Dih. 10 22.
2. Sancteiddiad y Sabbath a fydd in fuddiol o ran eich cyflwr ysprydol oddifewn. Canys hwn oedd un o'r dibennion pennaf, pa ham yr ordeiniwyd y Sabbath, self, fell y gallai Dduw drwy hynny in yr arfer oi ordinhadau ef gyfoethogi ein eneidiau ni â bendithion ysprydol mewn nefolion bethau. Ac y mae Sancteiddiad y Sabbath in hollawl in fodd enwedigol i genhedlu grâs, a hefyd i gadarnhau grâs; canys yr Arglwydd ai hordeiniodd ef i fod in Did-marchnad ir enaid. Ac in ddiammeu, pe byddem ni mor deimladwy o ddaioni ein eneidiau, ac yr ydym ni o ddaioni ein cyrph, yr hwsmyn gorau ar a allay fôd ni chadwent moi Dyddiau-marchnad, a'u ffeiriau ddim mwy dyfal; nag y cadwen ni Ddyddiau yr Arglwydd.