A85479:446
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Sancteiddiad y Sabbath a fydd in fuddiol o ran eich cyflwr ysprydol oddifewn. Canys hwn oedd un o'r dibennion pennaf, pa ham yr ordeiniwyd y Sabbath, self, fell y gallai Dduw drwy hynny in yr arfer oi ordinhadau ef gyfoethogi ein eneidiau ni â bendithion ysprydol mewn nefolion bethau. Ac y mae Sancteiddiad y Sabbath in hollawl in fodd enwedigol i genhedlu grâs, a hefyd i gadarnhau grâs; canys yr Arglwydd ai hordeiniodd ef i fod in Did-marchnad ir enaid. Ac in ddiammeu, pe byddem ni mor deimladwy o ddaioni ein eneidiau, ac yr ydym ni o ddaioni ein cyrph, yr hwsmyn gorau ar a allay fôd ni chadwent moi Dyddiau-marchnad, a'u ffeiriau ddim mwy dyfal; nag y cadwen ni Ddyddiau yr Arglwydd.
2. Sancteiddiad y Sabboth a fydd yn fuddiol o ran eich cyflwr ysprydol oddifewn. Canys hwn oedd un o'r dibennion pennaf, pa ham yr ordeiniwyd y Sabboth, sef, fel y gallai Dduw drwy hynny yn yr arfer oi ordinhadau ef gyfoethogi ein eneidiau ni â bendithion ysprydol mewn nefolion bethau. Ac y mae Sancteiddiad y Sabboth yn hollawl yn fodd enwedigol i genhedlu grâs, a hefyd i gadarnhau grâs; canys yr Arglwydd ai hordeiniodd ef i fod yn Ddydd-marchnad ir enaid. Ac yn ddiammeu, pe byddem ni mor deimladwy o ddaioni ein eneidiau, ac yr ydym ni o ddaioni ein cyrph, yr hwsmyn gorau ar a allai fôd ni chadwent moi Dyddiau-marchnad, a'u ffeiriau ddim mwy dyfal; nag y cadwen ni Ddyddiau yr Arglwydd.
3. Uniawn Sancteiddiad y Sabbath sydd hyfryd jawn i bobl ⟨p. 98⟩Dduw, in gymmaint ai bod in mwynhau cymdeithas a chymundeb oddifewn â Duw in ei ordinhadau ar y did hwnnw, yr hyn yw yr happusrwydd mwyaf y mae 'n bossibl i greaduriaid truain allu ei gyrraedd in y bywyd hwn, gan may nefoedd ar y ddaiar yw mwynhau cymmundeb â Duw, a rhyw râdd or nefol lawenydd hwnnw a gawn ni ar ôl hyn ei fwynhau in gyflownach in y nefoedd. Pa fodd y dylai yr ystyriaeth o hyn eich cynnhyrfu chwi i sancteiddio Did yr Arglwydd in ofalus ac in gydwybodus, fell y galloch chwi felly gael prawf o'r cyssurau a'r llonnychdod hyfrydlawn hynny, y rhai y darfu i eraill mor helaethlawn en mwynhau?