A85479:466
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Prif-byngciau sail Crefydd yw 'r cyfryw ray ac y seiliwyd ein Jechydwriaeth arnynt, heb wybodaeth o honynt ni ddichon dŷn fôd in gadwedig, a'r rheini yw y rhai hyn.
Prif-byngciau sail Crefydd yw 'r cyfryw rai ac y seiliwyd ein Iechydwriaeth arnynt, heb wybodaeth o honynt ni ddichon dŷn fôd yn gadwedig, a'r rheini yw y rhai hyn.
Bôd Duw. Nad oes onid un Duw. Bod yr unic wîr Dduw hwnnw in wahanrhedawl i dry o Bersonau, y Tâd, y Mâb, ar Yspryd Glân, oll in Dduw gogyfuwch. Mai y Duw hwnnw yw Creawdwr a Rheolwr pob peth. Wneuthur o hono ef bob peth in dda, ai fod ef fŷth in eu llywodraethu hwynt in gyfiawn. Wneuthur o hono ef ddŷn in enwedigol in berffaith gyfiawn. Nad arhosodd dŷn chwaith in hîr in ei gyflwr dedwyddol, onid cwympo o hono ef drwy droseddu Gorchymmyn Duw in bwytta 'r ffrwyth gwaharddedig. Ein bôd ni oll in evog o bechod Adda, gan ein bôd in ei lwynau ef pan bechodd y pechod hwnnw. ⟨p. 102⟩Ddwyn o bob un o honom ni ir bŷd naturiaethau llygredig a halogedig, naturiaethau cyn llawned o bechod, ac yw y llyffant dû o wenwyn. Ddarfod i ni at y llygredigaeth gwreiddiol ymma, chwanegur hif aneirif o drofeddiadau gwneuthurol, a hynny mewn drwg feddyliau, drwg eiriau, a drwg weithredoedd. Ddarfod i ni drwy ein pechodau ein gwneuthur ein hunain in hyrwym i ddigofaint Duw, i felltith y Gyfraith, i bôb math o farnedigaethau a Phláau yma, ac i ddiddrangc farwolaeth a damnedigaeth ar ôl hyn. Na ddichon un dŷn moi waredu ei hun allan o'r cyflwr truenus hwnnw, ir hwn yr ymsoddodd ef drwy bechod, ac na eill neb nad yw and creadur in unic moi gymmorth ef. Ddarfod i Dduw oi hyrâd râs, a'i oludog drugaredd, anfon ei fab ei hun o'i fynwes ir bŷd i gymmeryd ein naturiaeth ni arno, fell in hwnnw y galley ef ddyfod in feichiau ac in Brynnwr i ni, fód Christ in Dduw ac in Ddŷn mewn un person. Ei gael ef drwy yr Yspryd Glân, a'i eni ef o'r forwyn Fair. Ei farw ef ar y Gross i achub ei bobl oddiwrth eu pechodau; Ei adgyfodi ef o feirw y trydydd did, escyn o hono ir Nefoedd, ai fôd in eistedd ar ddeheulaw Duw, ac in eirioli drosom ni in wastadol. Mai trwy ffydd y gwneir ni in gyfrannogion o Grist, ac o'r llesâad sydd o'i angau a'i ddioddefaint ef. Mai dawn Duw yw ffydd, a weithir ynom ni gan Yspryd Duw, drwy Weinidogaeth y Gair, drwy yr hon yr ydym ni in derbyn Christ ar gynnygion yr Efengyl, ac in gorphywys arno in unic am bardwn o'n pechodau, ac am fywyd ac lechydwriaeth dragwyddol Ddarfod i Dduw welled in dda wneuthur â ni in, a thrwy Grist Gyfammod newydd o Râs, in yr hwn yr addawodd ef bardwn o'n pechodau, ac jechydwriaeth ein eneidiau, ar yr ammod o ffydd ac edifeirwch.