A85479:475
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Mae gwir jachusawl wybodaeth in Brofedic, drwy yr honey mae gan Gristion brofiad a theimlad ysprydol o'r ⟨p. 104⟩hyn y mae in ei wybod. Nid oes ganddo ef in unic wybodaeth gyffredinol a gwybodaeth pen am Dduw, ac am ei gyflwr truenus ei hun wrth naturiaeth, ac am Jesus Grist; eithr y mae ganddo ef hefyd wybodaeth brofedig o Dduw, ac o'i Briodoliaethau; megis o'i allu in ei gynnal ef tan ei brofiadau a'i demptasiwnau, o'i ffyddlondeb ef in cwplau ei addewidion iddo ef. Mae ganddo ef hefyd ystyriol deimlad o'i gyflwr truenus ei hun wrth naturiaeth; A gwybodaeth brofedig o Jesus Grist, fell y mae ef in adnabod Christ in Jachawdur ac in Brynnwr iddo, ac y mae in gorphywys ar eî haeddedigaethau ef in unic am fywyd ac am Jechydwriaeth. Wrth hyn gan hynny praw a hola dy wybodaeth, &c.
1. Mae gwir iachusawl wybodaeth yn Brofedic, drwy yr hon y mae gan Gristion brofiad a theimlad ysprydol o'r ⟨p. 104⟩hyn y mae yn ei wybod. Nid oes ganddo ef yn unic wybodaeth gyffredinol a gwybodaeth pen am Dduw, ac am ei gyflwr truenus ei hun wrth naturiaeth, ac am Jesu Grist; eithr y mae ganddo ef hefyd wybodaeth brofedig o Dduw, ac o'i Briodoliaethau; megis o'i allu yn ei gynnal ef tan ei brofiadau a'i demptasiwnau, o'i ffyddlondeb ef yn cwplau ei addewidion iddo ef. Mae ganddo ef hefyd ystyriol deimlad o'i gyflwr truenus ei hun wrth naturiaeth; A gwybodaeth brofedig o Jesu Grist, fel y mae ef yn adnabod Crist yn Iachawdur ac yn Brynnwr iddo, ac y mae yn gorphywys ar eî haeddedigaethau ef yn unic am fywyd ac am Iechydwriaeth. Wrth hyn gan hynny praw a hola dy wybodaeth, &c.
2. Mae gwir jachusawl wybodaeth in Ostyngedic, ac in gyssylltedic ag addfwynder yspryd. Canys po cywiraf yw 'r wybodaeth a fo gan ddŷn, goreu y mae ef in deal ei anwybodaeth ei hun, a'i waeledd hefyd oblegit ei bechodau. Ac am hynny chwi a gewch glywed y Cristianogion hynny, y rhai oeddynt fwyaf rhagorol mewn gwybodaeth a grâs, in cwyno in fwyaf, megis rhag eu hanwybodaeth, felly rhag eu bryntion a'u drygionus galonnau eu hunain, fell y gellwch chwi welled in Paul ac eraill, Rhuf. 7. 24.