A85479:476
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Mae gwir jachusawl wybodaeth in Ostyngedic, ac in gyssylltedic ag addfwynder yspryd. Canys po cywiraf yw 'r wybodaeth a fo gan ddŷn, goreu y mae ef in deal ei anwybodaeth ei hun, a'i waeledd hefyd oblegit ei bechodau. Ac am hynny chwi a gewch glywed y Cristianogion hynny, y rhai oeddynt fwyaf rhagorol mewn gwybodaeth a grâs, in cwyno in fwyaf, megis rhag eu hanwybodaeth, felly rhag eu bryntion a'u drygionus galonnau eu hunain, fell y gellwch chwi welled in Paul ac eraill, Rhuf. 7. 24. Eph. 3. 8. Ac nid rhyfedd, wrth ystyried fod gwîr jachusawl wybodaeth in datcuddio i ddŷn ei waeledd a'i drueni ei hun oblegid ei bechodau; ei anheilyngdod ei hun, je ei wegi a'i ddiddim ei hun, o ran dim daioni o'r eiddo ef ei hunan. Eithr y mae gwybodaeth ansancteiddiedic in chwythu dŷn i fynu gan falchder, a thŷb da o hono ei hun, hid oni byddo in dirmygu ac in diystyru eraill, yr hyn y mae yr Apostol in ei adrodd in eglur, lle y mae 'n dywedyd, Gwybodaeth sydd in chwyddo, 1 Cor. 8. 1. Wrth hyn gan hynny praw a hola dy wybodaeth, a yw hi gadwedigol a sancteiddiedig, ai nid yw.
2. Mae gwir iachusawl wybodaeth yn Ostyngedic, ac yn gyssylltedic ag addfwynder yspryd. Canys po cywiraf yw 'r wybodaeth a fo gan ddŷn, goreu y mae ef yn deall ei anwybodaeth ei hun, a'i waeledd hefyd oblegit ei bechodau. Ac am hynny chwi a gewch glywed y Cristianogion hynny, y rhai oeddynt fwyaf rhagorol mewn gwybodaeth a grâs, yn cwyno yn fwyaf, megis rhag eu hanwybodaeth, felly rhag eu bryntion a'u drygionus galonnau eu hunain, fel y gellwch chwi weled yn Paul ac eraill, Rhuf. 7. 24. Eph. 3. 8. Ac nid rhyfedd, wrth ystyried fod gwîr iachusawl wybodaeth yn datcuddio i ddŷn ei waeledd a'i drueni ei hun oblegid ei bechodau; ei anheilyngdod ei hun, ie ei wegi a'i ddiddim ei hun, o ran dim daioni o'r eiddo ef ei hunan. Eithr y mae gwybodaeth ansancteiddiedic yn chwythu dŷn i fynu gan falchder, a thŷb da o hono ei hun, hyd oni byddo yn dirmygu ac yn diystyru eraill, yr hyn y mae yr Apostol yn ei adrodd yn eglur, lle y mae 'n dywedyd, Gwybodaeth sydd yn chwyddo, 1 Cor. 8. 1. Wrth hyn gan hynny praw a hola dy wybodaeth, a yw hi gadwedigol a sancteiddiedig, ai nid yw.