A85479:477
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Mae gwir jachusawl wybodaeth in fywiog ac in llafurus, in wastadol in cyd redeg gyd ag ymarfer ac ufydd-dod, ac y mae hi in gweithio diwygiad ynghalon a buchedd y neb y mae hi ganddo.
3. Mae gwir iachusawl wybodaeth yn fywiog ac yn llafurus, yn wastadol yn cyd redeg gyd ag ymarfer ac ufydd-dod, ac y mae hi yn gweithio diwygiad ynghalon a buchedd y neb y mae hi ganddo.
II. Yr ail grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob cymmunwr, am yr hwn y mae in rhaid i tidy holy dy hun, yw ffydd. Ynghylch ⟨p. 105⟩yr hon mi a ddangosaf i chwi, 1. Beth yw ffŷdd. 2. Yr Angenrheidrwydd o honey. 3. Rhai Arwyddion a Nodau o ran ei phrofi hi.
II. Yr ail grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob cymmunwr, am yr hwn y mae yn rhaid i ti dy holi dy hun, yw ffydd. Ynghylch ⟨p. 105⟩yr hon mi a ddangosaf i chwi, 1. Beth yw ffŷdd. 2. Yr Angenrheidrwydd o honi. 3. Rhai Arwyddion a Nodau o ran ei phrofi hi.
I. Am y cyntaf, beth yw y ffydd ymma. Mi a attebaf. Gwir jachusawl ffydd in cyfiawnhau, a ellir ei phortreiadu fell hyn. Ffydd sydd râs a weithir ynghalon pechadur, gan yspryd Duw, trwy weinidogaeth y gair; drwy yr hyn ac ef wedi ei argyhoeddi o'i gyflwr pechadurus a thruenus, ac o bob anallu ynddo ei hun, neu in ûn unic greadur arall, iw ryddhau ef allan o'r cyflwr hwnnw, y mae ef in mined in hollawl allan o hono ei hun at Jesus Grist, a chan ei dderbyn ef megis ei holl-ddigonol Achubwr ai Ben-llywydd, gorphywys y mae ar ei berffaith gyfiawnder ef, a'i holl-ddigonol Aberth am bardwn a maddevant o'i bechodau ymma, ac am fywyd tragwyddol ac Jechydwriaeth ar ôl hyn, gan ei roddi ei hunan i fynu i ewyllys a llywodraeth Christ Jesus.