A85479:48
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Darllen y Gair gydâ phôb parch sancteidd-tân, megis y• gŵydd a phresennoldeb Duw, gan gredu may Gair Duw ydyw efe, a lefarwyd ac y scrifennwyd gan ddynion sanctaidd Duw, megis y cynbyrfwyd hwy gan yr yspnyd glân, 2 Pet. 1. 21. Rhuf. 15. 4. Am hynny pan ymosodeth i ddarllen y Gair, dywed wrthit dy hun, Gwrandawaf beth a ddywaid yr Arglwydd wrthifi in yr Scrythyrau.
I. Darllen y Gair gydâ phôb parch sancteidd-tân, megis y• gŵydd a phresennoldeb Duw, gan gredu mai Gair Duw ydyw efe, a lefarwyd ac y scrifennwyd gan ddynion sanctaidd Duw, megis y cynbyrfwyd hwy gan yr yspnyd glân, 2 Pet. 1. 21. Rhuf. 15. 4. Am hynny pan ymosodeth i ddarllen y Gair, dywed wrthit dy hun, Gwrandawaf beth a ddywaid yr Arglwydd wrthifi yn yr Scrythyrau.
2. Derchafa dy gallon i fynu mewn gweddi at Dduw, megis am yspryd o lewyrchiad, i agor golygon dy ddealldwriaeth, fell yr jawn ddeallech ei Air ef: felly am ddoethineb iw gymmhwyso ef attat dy hun, am goffadwriaeth iw gadw, ffydd i gredu, a grâs i arfer yr hyn a ddarllenech.
2. Derchafa dy galon i fynu mewn gweddi at Dduw, megis am yspryd o lewyrchiad, i agor golygon dy ddealldwriaeth, fel yr iawn ddeallech ei Air ef: felly am ddoethineb iw gymmhwyso ef attat dy hun, am goffadwriaeth iw gadw, ffydd i gredu, a grâs i arfer yr hyn a ddarllenech.
3. Darllen sanctaidd fucheddau a gweithredoedd plant Duw, nid in unic megis matterion o history, and megis ecsamplau iw dilyn: Canys pa bethau bynnag a scrifennwyd o'r blaen, er addysc ini yr scrifennwyd hwynt, Rhuf. 15. 4. Am hynny pan ddarllennech am uniondeb Noah, am ffydd Abraham, am laryeidd-dra Moses, am Ddefosiwnau Dafydd, am ammynedd Job, am Zel Josiah, am hyfdra Petr ac Joan in achos Christ, am lafuriadau Paul, ac am rinweddau eraill y seintiau gynt, gwna dy oreu ar harddu dy broffes â'r rhadau a'r trwsiadau hynny, ac ar fôd wedi dy gynnysgaeddu oddifewn ac oddiallan â'r cyffelyb rinweddau.