A85479:481
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Oblegit heb ffydd ammhossibl yw rhyngu bôdd Duw mewn un sanctaidd ordinhâd, Heb. 11. 6. Eithr gwir ffydd a genmyl ein personau a'n gwasanaeth ni gŷdâ Duw, cyn belled a'u bôd mewn cymmeriad gyd ag ef, er iddynt fôd in lawn o wendid ac ammherffeithrwydd. Hyn a wnaeth Aberth Abel mor gymmeradwy gan Dduw. Os devi di gan hynny ir Ordinhâd hon heb ffŷdd, in lle dyhuddo Duw, ti a bwrcesi ei orthrwm ddigofaint ef.
1. Oblegit heb ffydd ammhossibl yw rhyngu bôdd Duw mewn un sanctaidd ordinhâd, Heb. 11. 6. Eithr gwir ffydd a genmyl ein personau a'n gwasanaeth ni gŷdâ Duw, cyn belled a'u bôd mewn cymmeriad gyd ag ef, er iddynt fôd yn llawn o wendid ac ammherffeithrwydd. Hyn a wnaeth Aberth Abel mor gymmeradwy gan Dduw. Os deui di gan hynny ir Ordinhâd hon heb ffŷdd, yn lle dyhuddo Duw, ti a bwrcesi ei orthrwm ddigofaint ef.
2. Oddieithr bod ffydd gennit cyn i ti nesau ir ordinhâd honno, nid yw y Sacrament in dyfod and megis in sêl wrth bapir gwyn, ac in gwasanaethu in unic i selio i fynu dy anghrediniaeth i ddamnedigaeth. Fe ofynnir gan hynny o anghenrhaid gan bob Cymmunwr teilwng, fod ganddo ffydd, cyn iddo ddyfod i Swpper yr Arglwydd: canys ni appwyntiwyd yr ordinhâd honno i weithio ffydd and iw chryfhau hi. Fe all dŷn ddyfod i weinidogaeth y gair er ei fod in ddiffydd, o herwydd ei bôd in ordinhâd a osodwyd gan Dduw o ran cenhedlu ffydd, in ôl a ddywaid yr Apostol, Ffydd sydd trwy glywed, Rhuf. 10. 17. And nid oes neb i ddyfod ir Sacrament, and y sawl y mae ffydd ganddynt wedi ei gweithio ynddynt. Am nad yw ⟨p. 106⟩honno in ordinhâd a osodwyd gan Dduw i genhedlu ffydd, eithr in hyttrach iw chryfhau hi. Ni ordeiniwyd hi ir sawl sydd allan o Grist, iw dwys hwy i fewn, eithr ir sawl sydd in Ghrist iw meithrin hwynt ynddo ef. Fell y mae in rhaid geni dŷn cyn gallu o hono fwytta: felly y mae in rhaid iddo ynteu fod wedi ei ailgenhedlu gan Yspryd Duw, cyn y gallo ymborthi ar Gorph a Gwaed Christ o ran ei ysprydol fagwriaeth. Nid wyfi in dywedyd, fod in rhaid i bawb a ddelont ir Sacrament fod ganddynt yr unrhyw fesur o ffydd, and bod in rhaid bod ganddynt oll yr unrhyw gywirdeb o ffydd.