A85479:482
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Oddieithr bod ffydd gennit cyn i ti nesau ir ordinhâd honno, nid yw y Sacrament in dyfod and megis in sêl wrth bapir gwyn, ac in gwasanaethu in unic i selio i fynu dy anghrediniaeth i ddamnedigaeth. Fe ofynnir gan hynny o anghenrhaid gan bob Cymmunwr teilwng, fod ganddo ffydd, cyn iddo ddyfod i Swpper yr Arglwydd: canys ni appwyntiwyd yr ordinhâd honno i weithio ffydd and iw chryfhau hi. Fe all dŷn ddyfod i weinidogaeth y gair er ei fod in ddiffydd, o herwydd ei bôd in ordinhâd a osodwyd gan Dduw o ran cenhedlu ffydd, in ôl a ddywaid yr Apostol, Ffydd sydd trwy glywed, Rhuf. 10. 17. And nid oes neb i ddyfod ir Sacrament, and y sawl y mae ffydd ganddynt wedi ei gweithio ynddynt. Am nad yw ⟨p. 106⟩honno in ordinhâd a osodwyd gan Dduw i genhedlu ffydd, eithr in hyttrach iw chryfhau hi. Ni ordeiniwyd hi ir sawl sydd allan o Grist, iw dwys hwy i fewn, eithr ir sawl sydd in Ghrist iw meithrin hwynt ynddo ef. Fell y mae in rhaid geni dŷn cyn gallu o hono fwytta: felly y mae in rhaid iddo ynteu fod wedi ei ailgenhedlu gan Yspryd Duw, cyn y gallo ymborthi ar Gorph a Gwaed Christ o ran ei ysprydol fagwriaeth. Nid wyfi in dywedyd, fod in rhaid i bawb a ddelont ir Sacrament fod ganddynt yr unrhyw fesur o ffydd, and bod in rhaid bod ganddynt oll yr unrhyw gywirdeb o ffydd.
2. Oddieithr bod ffydd gennit cyn i ti nesau ir ordinhâd honno, nid yw y Sacrament yn dyfod ond megis yn sêl wrth bapir gwyn, ac yn gwasanaethu yn unic i selio i fynu dy anghrediniaeth i ddamnedigaeth. Fe ofynnir gan hynny o anghenrhaid gan bob Cymmunwr teilwng, fod ganddo ffydd, cyn iddo ddyfod i Swpper yr Arglwydd: canys ni appwyntiwyd yr ordinhâd honno i weithio ffydd ond iw chryfhau hi. Fe all dŷn ddyfod i weinidogaeth y gair er ei fod yn ddiffydd, o herwydd ei bôd yn ordinhâd a osodwyd gan Dduw o ran cenhedlu ffydd, yn ôl a ddywaid yr Apostol, Ffydd sydd trwy glywed, Rhuf. 10. 17. Ond nid oes neb i ddyfod ir Sacrament, ond y sawl y mae ffydd ganddynt wedi ei gweithio ynddynt. Am nad yw ⟨p. 106⟩honno yn ordinhâd a osodwyd gan Dduw i genhedlu ffydd, eithr yn hyttrach iw chryfhau hi. Ni ordeiniwyd hi ir sawl sydd allan o Grist, iw dwys hwy i fewn, eithr ir sawl sydd yn Ghrist iw meithrin hwynt ynddo ef. Fel y mae yn rhaid geni dŷn cyn gallu o hono fwytta: felly y mae yn rhaid iddo ynteu fod wedi ei ailgenhedlu gan Yspryd Duw, cyn y gallo ymborthi ar Gorph a Gwaed Crist o ran ei ysprydol fagwriaeth. Nid wyfi yn dywedyd, fod yn rhaid i bawb a ddelont ir Sacrament fod ganddynt yr unrhyw fesur o ffydd, ond bod yn rhaid bod ganddynt oll yr unrhyw gywirdeb o ffydd.