A85479:484
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Mae gwir ffydd in derbyn Christ in ei holl Swyddau, nid in unic fell y mae 'n Offeiriad i wneuthur bodlondeb ac eiriolaeth drosom; and hefyd megis Prophwyd i'n dyscu a'n Hyfforddi ni, ac megis Brenin i'n rheoli a'n Llywodraethu ni. Y mae y gwir gredadyn in ei fwrw ei hun wrth draed Christ, o ran ymostwng iddo, mor ewyllysgar ag in ei freichiau ef, am jechydwriaeth oddiwrtho. Mae efe mor ewyllysgar i wasanaethu Jesus Grist, ag i fod in gadwedic drwyddo ef, mor chwannog i ymostwng iw wasanaeth ef, ag i fwynhau ei ragorfreintiau ef. Canys mewn gwir ffydd, y mae 'n gynnwysedig nid in unic hither ar Grist ac ar ei gyfiawnder ef, eithr hefyd ufudd-dod hollawl i ewyllys Christ, ac ymostyngiad ewyllysgar iw lywodraeth ef. Fe osodir Christ allan in yr Efengyl nid in unic megis Achubwr, eithr hefyd megis Arglwydd a Rhoddwr-cyfraith, ac y mae y rhai'n wedi eu cyssylltu a'u cydio ynghyd in ddiwahanol. Ac am hynny nid yw 'r din hwnnw, ac sy 'n ewyllysgar i dderbyn Christ megis Achubwr, eithr nid megis Llywodraethwr, in gwneuthur dim amgen nâ thwyllo ei enaid ei hun. Trwy hyn gan hynny y jelly di brofi gwirionedd dy ffydd.
1. Mae gwir ffydd yn derbyn Crist yn ei holl Swyddau, nid yn unic fel y mae 'n Offeiriad i wneuthur bodlondeb ac eiriolaeth drosom; ond hefyd megis Prophwyd i'n dyscu a'n Hyfforddi ni, ac megis Brenin i'n rheoli a'n Llywodraethu ni. Y mae y gwir gredadyn yn ei fwrw ei hun wrth draed Crist, o ran ymostwng iddo, mor ewyllysgar ag yn ei freichiau ef, am iechydwriaeth oddiwrtho. Mae efe mor ewyllysgar i wasanaethu Jesu Grist, ag i fod yn gadwedic drwyddo ef, mor chwannog i ymostwng iw wasanaeth ef, ag i fwynhau ei ragorfreintiau ef. Canys mewn gwir ffydd, y mae 'n gynnwysedig nid yn unic hyder ar Grist ac ar ei gyfiawnder ef, eithr hefyd ufudd-dod hollawl i ewyllys Crist, ac ymostyngiad ewyllysgar iw lywodraeth ef. Fe osodir Crist allan yn yr Efengyl nid yn unic megis Achubwr, eithr hefyd megis Arglwydd a Rhoddwr-cyfraith, ac y mae y rhai'n wedi eu cyssylltu a'u cydio ynghyd yn ddiwahanol. Ac am hynny nid yw 'r dyn hwnnw, ac sy 'n ewyllysgar i dderbyn Crist megis Achubwr, eithr nid megis Llywodraethwr, yn gwneuthur dim amgen nâ thwyllo ei enaid ei hun. Trwy hyn gan hynny y gelli di brofi gwirionedd dy ffydd.
2. Mae gwir ffŷdd in râs sy in puro 'r gallon. Dyma nôd ffydd y mae 'r Apostol Petr in ei adrodd,