A85479:487
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Fod ffydd in rhoddi tueddfryd tuag at lanhaad in y gallon, hid onid yw in cásáu ac in ffieiddio pechod, je ac in ymdrech in ei erbyn, er na allo hi in hollawl moi glanhau a'i gwaredu ei hunan oddiwrth bechod. Wedi tymmeru y gallon unwaith â ffydd, ni letteva hi mor pechod o'i bôdd, and hi a ddyru gais ar ei weithio ef allan fwyfwy. Drwy hyn gan hynny praw di wirionedd a chadernyd dy ffydd, a weithiodd hi ynot ti lanweithrym a phureiddrym dueddfrŷd i ymdrechu in erbyn dy lygredigaethau, ac iw gweithio hwynt fwyfwy allan oath gallon.
2. Fod ffydd yn rhoddi tueddfryd tuag at lanhaad yn y galon, hyd onid yw yn cásáu ac yn ffieiddio pechod, ie ac yn ymdrech yn ei erbyn, er na allo hi yn hollawl moi glanhau a'i gwaredu ei hunan oddiwrth bechod. Wedi tymmeru y galon unwaith â ffydd, ni letteua hi mor pechod o'i bôdd, ond hi a ddyru gais ar ei weithio ef allan fwyfwy. Drwy hyn gan hynny praw di wirionedd a chadernyd dy ffydd, a weithiodd hi ynot ti lanweithrym a phureiddrym dueddfrŷd i ymdrechu yn erbyn dy lygredigaethau, ac iw gweithio hwynt fwyfwy allan oth galon.
III. Y trydydd grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob Cymmunwr yw Edifeirwch, ynghylch yr hon mi a ddangosaf,
1. Naturiaeth Edifeirwch, pabeth ydyw.