A85479:501
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Y Pedwerydd grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob Cymmunwr cyn y rhyfygo ddyfod i ffwrdd yr Arglwydd, yw cariad. Je cariad deublyg a ofynnir gan bob Cymmunwr, self, 1. Cariad i Dduw ac i Grist. 2. A chariad iw Gymydog.
IV. Y Pedwerydd grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob Cymmunwr cyn y rhyfygo ddyfod i ffwrdd yr Arglwydd, yw cariad. Ie cariad deublyg a ofynnir gan bob Cymmunwr, sef, 1. Cariad i Dduw ac i Grist. 2. A chariad iw Gymydog.
Y ddau hyn a gylymmwyd ynghŷd in ddiwananol: etto o ran ei trîn hwynt in fwy gwahanrhedawl, myfi a'u dosparthaf hwynt in fy ymadrodd, ac a grybwyllaf am danynt o'r neilltu, gan ddangos i chwi,
Y ddau hyn a gylymmwyd ynghŷd yn ddiwananol: etto o ran ei trîn hwynt yn fwy gwahanrhedawl, myfi a'u dosparthaf hwynt yn fy ymadrodd, ac a grybwyllaf am danynt o'r neilltu, gan ddangos i chwi,
1. Yr Angenrheidrwydd o honynt, o ran teilwng gyfrannogi o Swpper yr Arglwydd.
2. Rhai Arwyddion a nodau am y profiad o honynt.