A85479:507
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. O ran y Prawf o hono ef, chwi a ellwch ei adnabod wrth y nodau ar arwyddion yma.
1. Lle y mae gwir gariad o'r gallon i Dduw, ac i Jesus Grist, y gallon a fŷdd in ymlenwi ar feddyliau am danynt. Y eyfryw un a fydd in mynych feddwl am Dduw, ac am Jesus Grist, ac am eu trarhagorawl gariad hwynt a eglurwyd yngwaith mawr y Prynnedigaeth. Ar ôl i Ddafydd ddywedyd, Psal. 119. 97. Mor gu gennif dy gyfraith di! mae ef in ebrwydd in chwanegu, Hi yw fy myfyrdod beunydd. Ac in ddiau, pa beth bynnac a phwy bynnac yr ydym ni in ei garu, ni allwn ni na feddyliom ac na fyfyriom am dano in fynych. In siccr, y sawl a garant Dduw, a'r Arglwydd Jesus Grist, mewn purdeb a gwirionedd, fe eill bod ganddynt lnaws o geog, a thrythyll, a bydol, a chybyddus feddyliau in eu calonnau, and nid ydynt in cymmeryd dim gwir hyfrydwch ynddynt, maent in hyttrach in ofid ac in faich iddynt; eithr y meddyliau am Dduw ac am Grist ydynt hyfryd a chomfforddus jawn iddynt. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac Jesus Grist.
1. Lle y mae gwir gariad o'r galon i Dduw, ac i Jesu Grist, y galon a fŷdd yn ymlenwi ar feddyliau am danynt. Y eyfryw un a fydd yn mynych feddwl am Dduw, ac am Jesu Grist, ac am eu trarhagorawl gariad hwynt a eglurwyd yngwaith mawr y Prynnedigaeth. Ar ôl i Ddafydd ddywedyd, Psal. 119. 97. Mor gu gennif dy gyfraith di! mae ef yn ebrwydd yn chwanegu, Hi yw fy myfyrdod beunydd. Ac yn ddiau, pa beth bynnac a phwy bynnac yr ydym ni yn ei garu, ni allwn ni na feddyliom ac na fyfyriom am dano yn fynych. Yn siccr, y sawl a garant Dduw, a'r Arglwydd Jesu Grist, mewn purdeb a gwirionedd, fe eill bod ganddynt lnaws o geog, a thrythyll, a bydol, a chybyddus feddyliau yn eu calonnau, ond nid ydynt yn cymmeryd dim gwir hyfrydwch ynddynt, maent yn hyttrach yn ofid ac yn faich iddynt; eithr y meddyliau am Dduw ac am Grist ydynt hyfryd a chomfforddus iawn iddynt. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac Jesu Grist.