A85479:510
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Lle y mae cariad o'r gallon i Dduw ac i Jesus Grist, fe wnaiff ddŷn in ewyllysgar i wneuthur pob dim erddynt. Jacob a hoffodd Rachel, a pha beth ni wnaeth ef erddi? Efe a wasanaethodd ddau Brentissiaeth, ac nid oedd y cwbl in ei olwg ef and fell ychydig ddyddiau, am fod in hoff ganddo ef hi, Gen. 29. 20. Ac am hynny lle mae pûr gariad i Dduw a Christ, fe gymmell y cyfryw un iw osod ei hun allan drostynt hwy hid yr eithaf, i ymosod i ymarfer ar cyfryw ddyledswyddau, ar sydd anhawdd a chaledion, ac in gofyn lawyer o boen a llafur. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac iw fab Jesus Grist.
3. Lle y mae cariad o'r galon i Dduw ac i Jesu Grist, fe wnaiff ddŷn yn ewyllysgar i wneuthur pob dim erddynt. Jacob a hoffodd Rahel, a pha beth ni wnaeth ef erddi? Efe a wasanaethodd ddau Brentissiaeth, ac nid oedd y cwbl yn ei olwg ef ond fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo ef hi, Gen. 29. 20. Ac am hynny lle mae pûr gariad i Dduw a Christ, fe gymmell y cyfryw un iw osod ei hun allan drostynt hwy hyd yr eithaf, i ymosod i ymarfer ar cyfryw ddyledswyddau, ar sydd anhawdd a chaledion, ac yn gofyn llawer o boen a llafur. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac iw fab Jesu Grist.
4. Lle y mae cariad calon i Dduw, ac i Jesus Grist, fe wnaiff ddŷn in ewyllysgar i ddioddef pob dim erddynt. Fe ddywedir am y Seintiau gynt, o ran eu helaeth gariad ir Arglwydd Jesus Grist, na chyfrifasant hwy moi golud in rhŷ werthfawr iddynt, and a gymmerasant eu hyspeilio am y pethau oedd genddynt in llawen, Heb. 10. 34. Ni chyfrifasant hwy chwaith moi heinioes in rhy werthfawr, canys fe ddywedir in eglur, Ni charasant eu heinioes hid angeu, Dat. 12. 11. Hynny yw, hwy a ddirmygasant eu heinioes o'u cyffelybu i Jesus Grist: hwy a roesant o'u gwirfodd, nid in unic eu cyfoeth a'u golud in yspail, a'u personau i bob math ar wradwydd a dirmyg, and eu cyrph hefyd i angeu poenydiol in achos Christ. Wrth