A85479:516
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. O ran y Prawf o wirionedd dy gariad i'th frawd, ti a eli ei adnabod wrth y nodau ymma.
II. O ran y Prawf o wirionedd dy gariad i'th frawd, ti a elli ei adnabod wrth y nodau ymma.
1. Os maddevaist di ith frawd mewn gwirionedd, ti a fyddi cyn belled oddiwrth wneuthur dim niweid iddo (er bod hynny in dy allu) na ddymunech iddo ddim o'r niweid.
1. Os maddeuaist di ith frawd mewn gwirionedd, ti a fyddi cyn belled oddiwrth wneuthur dim niweid iddo (er bod hynny yn dy allu) na ddymunech iddo ddim o'r niweid.
2. Os gwir faddevaist di ith frawd a wnaeth ith erbyn, ti a groesewi in ewyllysgar bob achlysar o wneuthur iddo ddaioni, ⟨p. 115⟩fell y gallo ef felly wybod a bod in siccr ddarfod i ti gymmodi âg ef. Hyn y mae ein Jachawdwr in ei ofyn gan ei holl ddiscyblion, lle mae ef in dywedyd, Cerwch eich gelynion, hynny yw, y rhai a wnaethant gam â chwi mewn un môdd; ac megis eglurdeb o wirionedd eich cariad, mae 'n dywedyd ymhellach, Gwnewch dda i'r sawl a'ch casant; gan arwyddocau, nad digon yw i chwi lefaru in gefeillgar ac in heddychol wrth eich gelynion, and rhaid yw i chwi hefyd gymmeryd pob achlysur i wneuthur iddynt y daioni a alloch, yr hyn sydd wir frawdgarwch a chariad Cristianogol.
2. Os gwir faddeuaist di ith frawd a wnaeth ith erbyn, ti a groesewi yn ewyllysgar bob achlysar o wneuthur iddo ddaioni, ⟨p. 115⟩fel y gallo ef felly wybod a bod yn siccr ddarfod i ti gymmodi âg ef. Hyn y mae ein Iachawdwr yn ei ofyn gan ei holl ddiscyblion, lle mae ef yn dywedyd, Cerwch eich gelynion, hynny yw, y rhai a wnaethant gam â chwi mewn un môdd; ac megis eglurdeb o wirionedd eich cariad, mae 'n dywedyd ymhellach, Gwnewch dda i'r sawl a'ch casant; gan arwyddocau, nad digon yw i chwi lefaru yn gefeillgar ac yn heddychol wrth eich gelynion, ond rhaid yw i chwi hefyd gymmeryd pob achlysur i wneuthur iddynt y daioni a alloch, yr hyn sydd wir frawdgarwch a chariad Cristianogol.