A85479:539
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
6. Wrth dy fôd in mined at fwrdd yr Arglwydd, bwrw dy holl feddyliau a'th negesevau bydol allan oath ben, y rhai, oni wnei hynny, a ddygant ymmaith dy gallon oddiwrth yr ordinhâd, ac ath rwystrant di in fawr jawn ynddi. In Job 1. 6. y ddarllennwn, A did a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll ger bron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth in eu plith hwynt. Yr un ffunyd, pan ddelo Plant Duw i sefyll ger bron yr Arglwydd in yr Ordinhâd barchedig honno, bid Satan siccr o ymddangos in eu plith hwynt, iw rhwystro a'u hamhwyllo ynddi (in gymmaint ac y bo in bossibl) drwy fwrw in eu pennau feddyliau gweigion ac ammherthynasol. Ac am hynny mae 'n perthyn i ti fod in wiliadwrus ar dy feddyliau, a chadw dy gallon in din wrth yr ordinhâd. Ir diben hwnnw fe fŷdd in ddoethineb i ti in fynych fwrw golwg ar yr elfennau oddiallan o fara a gwîn, a dal sulw in ddyfal ar y moddion a'r gwaith oddiallan in yr ordinhâd, ac ar hynny myfyria ar y pethau ysprydol a arwyddoceir drwyddynt.
6. Wrth dy fôd yn myned at fwrdd yr Arglwydd, bwrw dy holl feddyliau a'th negeseuau bydol allan oth ben, y rhai, oni wnei hynny, a ddygant ymmaith dy galon oddiwrth yr ordinhâd, ac ath rwystrant di yn fawr iawn ynddi. Yn Job 1. 6. y ddarllennwn, A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll ger bron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt. Yr un ffunyd, pan ddelo Plant Duw i sefyll ger bron yr Arglwydd yn yr Ordinhâd barchedig honno, bydd Satan siccr o ymddangos yn eu plith hwynt, iw rhwystro a'u hamhwyllo ynddi (yn gymmaint ac y bo yn bossibl) drwy fwrw yn eu pennau feddyliau gweigion ac ammherthynasol. Ac am hynny mae 'n perthyn i ti fod yn wiliadwrus ar dy feddyliau, a chadw dy galon yn dynn wrth yr ordinhâd. Ir diben hwnnw fe fŷdd yn ddoethineb i ti yn fynych fwrw golwg ar yr elfennau oddiallan o fara a gwîn, a dal sulw yn ddyfal ar y moddion a'r gwaith oddiallan yn yr ordinhâd, ac ar hynny myfyria ar y pethau ysprydol a arwyddoceir drwyddynt.
Wedi rhagosod y pethau hyn, in awry deuwn at y dyledswyddau sydd iw cyflawni ar yr Ordinhâd, y rhai yw y rhai'n.