A85479:553
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Y coffa am farwolaeth Christ a ddylai weithio ynom ni dristwch duwiol am ein pechodau, megis y gwir achos o'i ddioddefiaddu ef. Canys y gwirionedd yw, nad Juddas yr hwn a fradychodd Grist, na'r Scrifennyddion a'r Pharisaeaid y rhai a'i cyhuddasant ef, na Philat a'i condemnodd ef, na'r Milwŷr a'i Croeshoeliasant ef, na'r Diafol yr hwn ai gosododd hwynt oll ar waith, in gymmaint an Pechodau ni ydoedd y gwir achos o ddioddefiadau Christ. Y Milwyr ar ai fflangellasant ef, ac a'i Croeshoeliasant, nid oeddynt and ein Dihenyddwŷr ni, i ddodi arno ef y cospedigaethau hynny, ar a haeddodd ein Pechodau ni, ac ⟨p. 124⟩a osododd Cyfiawnder Duw am yr unrhyw. Ein pechodau ni a wenwynodd y ffrewyllau hynny ar a fflangellodd ei Gorph diniweid ef, y drain hynny y rhai a bigasant ei arleisiau ef, a'r Hoelion hynny y rhai a wanasant ei ddwylo a'i draed ef, ac a'u gwnaethant mor chwerw iddo ef. Och na fedrem ni gan hynny edrych ar yr hwn a drywanasom drwy ein peehodau, fell y gallem alaru fell un in galaru am ei uniganedig, ac ymofidio megis un in gofidio am ei gyntaf-anedig, Zach. 12. 10.
4. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ynom ni dristwch duwiol am ein pechodau, megis y gwir achos o'i ddioddefiaddu ef. Canys y gwirionedd yw, nad Juddas yr hwn a fradychodd Grist, na'r Scrifennyddion a'r Pharisaeaid y rhai a'i cyhuddasant ef, na Philat a'i condemnodd ef, na'r Milwŷr a'i Croeshoeliasant ef, na'r Diafol yr hwn ai gosododd hwynt oll ar waith, yn gymmaint an Pechodau ni ydoedd y gwir achos o ddioddefiadau Crist. Y Milwyr ar ai fflangellasant ef, ac a'i Croeshoeliasant, nid oeddynt ond ein Dihenyddwŷr ni, i ddodi arno ef y cospedigaethau hynny, ar a haeddodd ein Pechodau ni, ac ⟨p. 124⟩a osododd Cyfiawnder Duw am yr unrhyw. Ein pechodau ni a wenwynodd y ffrewyllau hynny ar a fflangellodd ei Gorph diniweid ef, y drain hynny y rhai a bigasant ei arleisiau ef, a'r Hoelion hynny y rhai a wanasant ei ddwylo a'i draed ef, ac a'u gwnaethant mor chwerw iddo ef. Och na fedrem ni gan hynny edrych ar yr hwn a drywanasom drwy ein peehodau, fel y gallem alaru fel un yn galaru am ei uniganedig, ac ymofidio megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig, Zach. 12. 10