A85479:554
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Y coffa am farwolaeth Christ a ddylai weithio ynom ni farwolaeth Pechod; Nyni a ddylem gofio marwolaeth Christ felly, fell y byddem ni marw i Bechod. Canys yr Apostol Paul sydd in annog ein marwolaeth i bechod oddiwrth farwolaeth Christ, fell megis ac y bu Christ farw ac y cyfodwyd eilwaith, felly y dylem ninneu farw i bechod a byw i Dduw. Rhuf. 6. 2, 4. Ir diben ymma casáwn a ffeiddiwn y pechod megis y drwg mwyaf, gan roddi ein brŷd gyd â chymmorth grâs Duw ar ymado ac ymwrthod â phob mâth ar bechodau am yr amser i ddyfod; canys pa ham yr ymddangosai un pechod in ysgafn i ni, yr hwn a bwysodd cyn drymmed ar ein Jachawdwr, oni fwriodd ef mewn chwŷs gwaedlyd? Pa ham y byddei un pechod in felys i ni, yr hwn a fu mor chwerw i'n Jachawdwr? Pell fyddo oddiwrthym ni, drwy adnewyddu ein pechodau, rwygo ei archollion ef o newydd, ai ailgroeshoelio hefyd.
5. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ynom ni farwolaeth Pechod; Nyni a ddylem gofio marwolaeth Crist felly, fel y byddem ni marw i Bechod. Canys yr Apostol Paul sydd yn annog ein marwolaeth i bechod oddiwrth farwolaeth Crist, fel megis ac y bu Crist farw ac y cyfodwyd eilwaith, felly y dylem ninneu farw i bechod a byw i Dduw. Rhuf. 6. 2, 4. Ir diben ymma casáwn a ffeiddiwn y pechod megis y drwg mwyaf, gan roddi ein brŷd gyd â chymmorth grâs Duw ar ymado ac ymwrthod â phob mâth ar bechodau am yr amser i ddyfod; canys pa ham yr ymddangosai un pechod yn ysgafn i ni, yr hwn a bwysodd cyn drymmed ar ein Iachawdwr, oni fwriodd ef mewn chwŷs gwaedlyd? Pa ham y byddei un pechod yn felys i ni, yr hwn a fu mor chwerw i'n Iachawdwr? Pell fyddo oddiwrthym ni, drwy adnewyddu ein pechodau, rwygo ei archollion ef o newydd, ai ailgroeshoelio hefyd.
6. Y coffa am farwolaeth Christ a ddylai weithio ein calonnau ni i fynu at ryw ddyledus ddiolchgarwch i Dduw, a'i fâb ef Jesus Grist, am eu hanrhaethawl gariad ai trugaredd tu ag atom ni in bin. Diolchgarwch sydd râs iw harfer nid in unic ar ôl derbyn y Sacrament, and hefyd tra 'r ydym ni in bresennol in yr Ordinhâd. Pan yw ein calonnau ni wedi ymserchu â'r teimlad o anfeidrol gariad Duw'r Tâd, in rhoddi ei anwyl fab allan oi fynwes i farw drosom; ac o anrhaethawl gariad Christ in offrymmu ei Gorph ei hun in Aberth ar y Gross dross ein Pechodau ni, yna y dylent dory allan mewn moliant a diolchgarwch i Dduw 'r Tâd, a'i fab ef Jesus Grist.