A85479:557
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Dy ffŷdd, Dymma 'r grâs pennaf iw arfer in y Sacrament; Canys ffydd yw llygad yr enaid, drwy yr hwn y mae'n canfod ac in jawn farnu corph a gwaed Christ tan yr elfennau o fara a gwin: Law yr Enaid yw hi hefyd, drwy yr honey mae 'n derbyn Jesus Grist: a genau yr Enaid, drwy yr hwn y mae 'n ymborthi ar Jesus Grist. Ac am hynny heb osod dy ffŷdd ar waith ar y Sacrament, ni eli dderbyn dim llesáad.
I. Dy ffŷdd, Dymma 'r grâs pennaf iw arfer yn y Sacrament; Canys ffydd yw llygad yr enaid, drwy yr hwn y mae'n canfod ac yn iawn farnu corph a gwaed Crist tan yr elfennau o fara a gwin: Llaw yr Enaid yw hi hefyd, drwy yr hon y mae 'n derbyn Jesu Grist: a genau yr Enaid, drwy yr hwn y mae 'n ymborthi ar Jesu Grist. Ac am hynny heb osod dy ffŷdd ar waith ar y Sacrament, ni elli dderbyn dim llesáad.
Y mae gweithred driphlyg i ffydd iw gosod ar waith in Swpper yr Arglwydd.
Y mae gweithred driphlyg i ffydd iw gosod ar waith yn Swpper yr Arglwydd.
1. Edrych am Jesus Grist. 2. Derbyn Christ. 3. Ei gymmhwyso a'i biodoli ef attat dy hun.
1. Edrych am Jesu Grist. 2. Derbyn Crist. 3. Ei gymmhwyso a'i biodoli ef attat dy hun.