A85479:56
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y mae naturiaeth y wiliadwriaeth gristianogol in sefyll, mewn synhwyrol ddaliad sulw arnom ein hunain ym mhob peth, gan ddyfal graffu ar ein holl ffyrdd a'n gweithredoedd, fall na bythom ni in anfodloni Duw mewn dim, and in hytrach in rhyngu bôdd iddo ym mhôb peth. Anghenrheidrwydd y ddyledswydd hon sydd in ymddangos,
Y mae naturiaeth y wiliadwriaeth gristianogol yn sefyll, mewn synhwyrol ddaliad sulw arnom ein hunain ym mhob peth, gan ddyfal graffu ar ein holl ffyrdd a'n gweithredoedd, fal na bythom ni yn anfodloni Duw mewn dim, ond yn hytrach yn rhyngu bôdd iddo ym mhôb peth. Anghenrheidrwydd y ddyledswydd hon sydd yn ymddangos,
1. Oddiwrth wiliadwriaeth ein gwrthwynebwr cyffredin y Diafol; Canys megis y mae 'r Apostol Petr in llefaru, Y mae eich gwrth-wynebwr y Diafol megis llew rhuddwy in rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Y mae pôb gair in bwysig, ac in cynwys ynddo rheswm enwedigol am wiliadwriaeth gristianogawl 1. Eich gwrthwynebwr yw efe, yr hwn a wnaiff i chwi yr holl aflwydd ⟨p. 11⟩ar a allo; am hynny byddwch wiliadwrus. 2. Ymma y gosodir ef allan wrth ei enw Diafol, yr hwn sy'n mynegi ei fôd ef in gyhuddwr, ac in ûn sy in ceisio pôb mantais ar a allo in eich erbyn, am hynny byddwch wiliadwrus. 3. Fe gosodir ef allan wrth ei Greulonder, trwy ei alw ef in Lew, je ac i chwanegu dychryndod, fe a'i gelwir ef in Llew rhuadwy, am hynny byddwch wiliadurus. 4. Fe gosodir ef allan wrth ei Ddiwydrwydd, a'r boen y mae ef in ei gymmeryd, Y mae ef in rhodio oddi amgylch, nid yw ef in eistedd in llonydd, eithr y mae ef in ddiorphwys i wneuthur drwg, am hynny byddwch wiliadwrus. 5. Fe gosodir ef allan wrth ei Gyfrwystra, gan geisio, hynny yw gan yspio ym mhôb lle i gael ei fantais oreu, am hynny byddwch wiliadwrus. 6. Wrth ei Ddiben a'i fwriad ystrywgar ef, yr hyn yw Destryw eneidiau dynion, canys y mae ef in rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Gan fôd gennym gan hynny y cyfryw Wrthwynebwr ac yw y Diafol, yr hwn sydd greulon, a chyfrwys, a maleisus, mae 'n perthyn i ni fôd in wiliadwrus arnom ein hunain.