A85479:564
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Gweithred arall i ffydd iw harfer in Swpper yr Arglwydd, yw derbyn Jesus Grist. Canys y Credadyn wedi ⟨p. 127⟩iddo ganfod Christ â llygad ffydd tan yr elfennau oddiallan, a'r defodau rhagddywededig, yna y mae in ei dderbyn ef iw gallon mewn llawenydd a gorfoledd lawyer. Megis gan hynny ac yr wit ti in estyn allan law dy gorph i dderbyn y bara ar gwîn, estyn allan law dy ffydd i gymmeryd gafael ar Jesus Grist ac iw dderbyn, ac i orphywys arno ef megis am faddevant pechodau ymma, felly hefyd am fywyd tragwyddol ac jechydwriaeth ar ôl hyn. Oblegit ffydd yw 'r offeryn hwnnw drwy yr hwn yr ydym ni in derbyn Christ a'i holl ddoniau, fell y cynnygir hwy i ni in yr Efengyl, ac y selir hwy i ni in y Sacrament. Mae ffŷdd ir enaid, megis ac y mae y law ir corph, yr hyn a gynnygier i ddŷn o ran ei ddaioni, y law sydd barod iw dderbyn, a'r hyn a dderbynio y law in y mod hwnnw, sydd in eiddo dŷn ei hun. Fall hyn y mae Duw in cynnyg ei fab i ni, ffydd sy in perswadio 'r gallon o ewyllys da Duw i ddŷn, ac o'i wir fwriad ef ar wneuthur dŷn in gyfrannog o'i fab, ac ar hynny y mae 'n cymmeryd gafael arno, ac in ei dderbyn ef in eiddo ei hun, a Christ sydd eiddo ef mewn gwirionedd.
II. Gweithred arall i ffydd iw harfer yn Swpper yr Arglwydd, yw derbyn Jesu Grist. Canys y Credadyn wedi ⟨p. 127⟩iddo ganfod Crist â llygad ffydd tan yr elfennau oddiallan, a'r defodau rhagddywededig, yna y mae yn ei dderbyn ef iw galon mewn llawenydd a gorfoledd lawer. Megis gan hynny ac yr wyt ti yn estyn allan law dy gorph i dderbyn y bara ar gwîn, estyn allan law dy ffydd i gymmeryd gafael ar Jesu Grist ac iw dderbyn, ac i orphywys arno ef megis am faddeuant pechodau ymma, felly hefyd am fywyd tragwyddol ac iechydwriaeth ar ôl hyn. Oblegit ffydd yw 'r offeryn hwnnw drwy yr hwn yr ydym ni yn derbyn Crist a'i holl ddoniau, fel y cynnygir hwy i ni yn yr Efengyl, ac y selir hwy i ni yn y Sacrament. Mae ffŷdd ir enaid, megis ac y mae y llaw ir corph, yr hyn a gynnygier i ddŷn o ran ei ddaioni, y llaw sydd barod iw dderbyn, a'r hyn a dderbynio y llaw yn y modd hwnnw, sydd yn eiddo dŷn ei hun. Fal hyn y mae Duw yn cynnyg ei fab i ni, ffydd sy yn perswadio 'r galon o ewyllys da Duw i ddŷn, ac o'i wir fwriad ef ar wneuthur dŷn yn gyfrannog o'i fab, ac ar hynny y mae 'n cymmeryd gafael arno, ac yn ei dderbyn ef yn eiddo ei hun, a Christ sydd eiddo ef mewn gwirionedd.