A85479:572
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I Gofod dy Dŷ mewn trefn; fy meddwl yw, sefydlu o honot dy ystât oddiallan, drwy wneuthur dy Lythyr cymmun neu'th ewyllys; yr hyn ni phrysura ddim ar dy farwolaeth di mewn mod in y bŷd (fell y mae lawyer in eu ffoledd in tybied) and in hytrach a'th ddyru di mewn cymmhwysder gwell, i osod dy enaid mewn trefn o ran ymadawiad bendigedig. Ac megins ac y bendithiodd Duw di â golud, felly na phalla o roddi rhyw gyfran weddol o hono tu ac at ddiwallu aelodau tlodion Jesus Christ. Er bod yr eluseni a wneler in amser bywyd dŷn in oreu in ddiammeu, ac in fwyaf cymmeradwy gan Dduw, pan wnelom ni ein Dwylo ein hunain in Ecsecutorion, a'n Llygaid ein hunain in Olygwyr i ni; etto nid wyfi in beio ar yr Eluseni a ddangoser ar y diwedd, canys gwell yw'n ddiweddar nâ'i esceuluso tros bight.
I Gofod dy Dŷ mewn trefn; fy meddwl yw, sefydlu o honot dy ystât oddiallan, drwy wneuthur dy Lythyr cymmun neu'th ewyllys; yr hyn ni phrysura ddim ar dy farwolaeth di mewn modd yn y bŷd (fel y mae llawer yn eu ffoledd yn tybied) ond yn hytrach a'th ddyru di mewn cymmhwysder gwell, i osod dy enaid mewn trefn o ran ymadawiad bendigedig. Ac megīs ac y bendithiodd Duw di â golud, felly na phalla o roddi rhyw gyfran weddol o hono tu ac at ddiwallu aelodau tlodion Jesu Crist. Er bod yr eluseni a wneler yn amser bywyd dŷn yn oreu yn ddiammeu, ac yn fwyaf cymmeradwy gan Dduw, pan wnelom ni ein Dwylo ein hunain yn Ecsecutorion, a'n Llygaid ein hunain yn Olygwyr i ni; etto nid wyfi yn beio ar yr Eluseni a ddangoser ar y diwedd, canys gwell yw'n ddiweddar nâ'i esceuluso tros byth.
II. Anfon am ryw Weinidog duwiol, neu Gristion profedig, ith gyfarwyddo di i osod dy Enaid mewn trefn, o ran dy fawr gyfnewidiad. Y cyngor hwn y mae 'r Apostol Jaco in ei roddi, canys medd ef, Jac. 5. 14. A oes neb in eich plith in glâf? galwed atto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwy trosto. A hyn a gynghorwn i ti ei wneuthur in y man cyntaf, heb ei oedi dan yr olâf, pan ddechrevo dy deal a'th goffadwriaeth di ballu, megis ac y mae arfer y rhan fwyaf, y rhai pan ddarfyddo ir Physygwr â hwynt, ai fod mewn rhan wedi eu rhoddi hwynt heibio, yna yr anfonant am Weinidog i ddechreu gŷd â hwynt, megis ped fai Weddi fer, neu ychydig eiriau o gyngor Ysprydol, in ddigon iw hebrwng ir Nefoedd.