A85479:607
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am Ddyledswyddau Gwŷr a Gwragedd, fe ellir eu tynnu ir ddau Ben hyn. 1. Ir cyfryw ray ar sydd gyffredinol ir ddau. 2. Ir cyfryw ray ar sydd briodol a neilltuol i bob un ar ei ben.
Am Ddyledswyddau Gwŷr a Gwragedd, fe ellir eu tynnu ir ddau Ben hyn. 1. Ir cyfryw rai ar sydd gyffredinol ir ddau. 2. Ir cyfryw rai ar sydd briodol a neilltuol i bob un ar ei ben.
Y Dyledswyddau cyffredinol ac ar y nail ir llall yw y rhai hyn.
Y Dyledswyddau cyffredinol ac ar y naill ir llall yw y rhai hyn.
I. Caredigol search y nail ir llall, Ephes. 5. 25, 28, 33. Tit. 2. 4. Hyn yr wyfi in ei alw in Ddyledswydd ar y nail ir llall, oblegid megis ac y mae 'r Gŵr i garu ei Wraig▪ felly y mae 'r Wraig i garu ei Gŵr. Cariad sydd ddyledswydd y mae pob Cristion in ei dylu iw gilydd, Câr dy Gymydog fell tidy hun, medd ein Jachawdwr, Mat. 22. 39. Lle wrth Gymydog yr arwyddoceir pob gwr, a phob gwraig, in gymmaint a'n bod ni in rhwym i garu pawb, hid in oed ein gelynion, er mwyn Christ. Eithr po agosaf y mae rhai wedi eu cylymmu ynghŷd, mwyaf rhwymedig ydynt i gyflawni y Ddyledswydd hon ⟨p. 143⟩o gariad, ac i ymhelaethu in hynny. In awr, pwy a gŷdgylymwyd ynghŷd mor gyfagos â Gŵr a Gwraig? ac am hynny fe ddylai fod rhyngthynt hwy garedigawl search y nail ir llall, a'r cariad yr hwn a ddengys y nail ir llall a gynnhyrfa 'r llall i dalu 'r cariad hwnnw in ôl drachefn, fall nad oes dim in colli drwy gariad.