A85479:611
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O ran cynnal cyttundeb in well rhwng Gŵr a Gwraig, cymmerwch yr ychydig Hyfforddiadau ymma.
O ran cynnal cyttundeb yn well rhwng Gŵr a Gwraig, cymmerwch yr ychydig Hyfforddiadau ymma.
1. Rhoddwch gais ar ddarostwng a churo i lawr bôb gwynniau o gynddaredd, y rhai sy in arferol o fod in achlysur o anghydfod ac ymryson; in enwedigol pan fyddo ûn mewn gwŷn, fe fydd in ddoethineb ir llall arfer ymynedd, a dangos yspryd addfwynaidd; canys pan yw'r ddau in boethion ac in ddiglon ar unwaith, yno y mae'r tân o gynnen in debyg i gynnhyrchu ir cyfryw fflam ar na ddiffoddo in ddiswtta. Ac am hynny myfi a orchymynaf y rheol hon i bobl briodol, I ochelyd bod ill dau in dig a'r unwaith, eithr in hytrach bydded ir nail fôd ir llall megis Telyn Dafydd, i lonyddu cynddaredd Saul.
1. Rhoddwch gais ar ddarostwng a churo i lawr bôb gwynniau o gynddaredd, y rhai sy yn arferol o fod yn achlysur o anghydfod ac ymryson; yn enwedigol pan fyddo ûn mewn gwŷn, fe fydd yn ddoethineb ir llall arfer ymynedd, a dangos yspryd addfwynaidd; canys pan yw'r ddau yn boethion ac yn ddiglon ar unwaith, yno y mae'r tân o gynnen yn debyg i gynnhyrchu ir cyfryw fflam ar na ddiffoddo yn ddiswtta. Ac am hynny myfi a orchymynaf y rheol hon i bobl briodol, I ochelyd bod ill dau yn ddig a'r unwaith, eithr yn hytrach bydded ir naill fôd ir llall megis Telyn Dafydd, i lonyddu cynddaredd Saul.
2. Er bod tân o gynnen wedi ennyn gartref, etto na âd iddo dory allan i dŷ dy gymydog; eithr bid siccr o'i gadw o fewn dy barwydydd dy hun. Canys cael yr ydys drwy brawf in rhy fynych, fod amrafaelion rhwng Gŵr a Gwraig unwaith wedi eu cyhoeddi ar lêd, in anhaws eu gwneuthur i fynu.
2. Er bod tân o gynnen wedi ennyn gartref, etto na âd iddo dorri allan i dŷ dy gymydog; eithr bydd siccr o'i gadw o fewn dy barwydydd dy hun. Canys cael yr ydys drwy brawf yn rhy fynych, fod amrafaelion rhwng Gŵr a Gwraig unwaith wedi eu cyhoeddi ar lêd, yn anhaws eu gwneuthur i fynu.