A85479:616
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Dyledswydd arall arnynt iw gilydd yw, Rhagddarbodus of offal am eneidiau eu gilydd.
IV. Dyledswydd arall arnynt iw gilydd yw, Rhagddarbodus of ofal am eneidiau eu gilydd.
1. Os bid Gŵr neu Wraig credadwy wedi priodi un digrêd, hwy a ddylent arfer pob moddion a fedront i ynnill y llall, 1 Pet. 3. 1. 1 Cor. 7. 16. Ac os bid un o honoch in fôdd o droedigaeth y llall, mor gyfan-bûr y cyssyllta hyn eich serchiadau y nail ir llall?
1. Os bydd Gŵr neu Wraig credadwy wedi priodi un digrêd, hwy a ddylent arfer pob moddion a fedront i ynnill y llall, 1 Pet. 3. 1. 1 Cor. 7. 16. Ac os bydd un o honoch yn fôdd o droedigaeth y llall, mor gyfan-bûr y cyssyllta hyn eich serchiadau y naill ir llall?
2. Os y Gŵr a'r Wraig hefyd a fyddant mewn Stât o Râs, hwy a ddylent fod in wiliadwrus y nail dross y llall, megis i ragflaenu pechod in eu gilydd, felly iw ddiwygio y ford oreu y medrant pan gwympo un o honynt hwy iddo, drwy rybudd prydlawn, je a cherydd hefyd, oni wasanaetha rhybudd: In hyn y dylai Wr a Gwraig in fwy ofalu am ddaioni eu gilydd y nail ir llall, nag ofni rhag rhoddi achos i ddigio.
2. Os y Gŵr a'r Wraig hefyd a fyddant mewn Stât o Râs, hwy a ddylent fod yn wiliadwrus y naill dros y llall, megis i ragflaenu pechod yn eu gilydd, felly iw ddiwygio y ffordd oreu y medrant pan gwympo un o honynt hwy iddo, drwy rybudd prydlawn, ie a cherydd hefyd, oni wasanaetha rhybudd: Yn hyn y dylai Wr a Gwraig yn fwy ofalu am ddaioni eu gilydd y naill ir llall, nag ofni rhag rhoddi achos i ddigio.