A85479:618
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Os y Gŵr a'r Wraig hefyd a fyddant mewn Stât o Râs, hwy a ddylent fod in wiliadwrus y nail dross y llall, megis i ragflaenu pechod in eu gilydd, felly iw ddiwygio y ford oreu y medrant pan gwympo un o honynt hwy iddo, drwy rybudd prydlawn, je a cherydd hefyd, oni wasanaetha rhybudd: In hyn y dylai Wr a Gwraig in fwy ofalu am ddaioni eu gilydd y nail ir llall, nag ofni rhag rhoddi achos i ddigio.
2. Os y Gŵr a'r Wraig hefyd a fyddant mewn Stât o Râs, hwy a ddylent fod yn wiliadwrus y naill dros y llall, megis i ragflaenu pechod yn eu gilydd, felly iw ddiwygio y ffordd oreu y medrant pan gwympo un o honynt hwy iddo, drwy rybudd prydlawn, ie a cherydd hefyd, oni wasanaetha rhybudd: Yn hyn y dylai Wr a Gwraig yn fwy ofalu am ddaioni eu gilydd y naill ir llall, nag ofni rhag rhoddi achos i ddigio.
Ac y mae 'n ddyledswydd berthynasol ar sy in sefyll ar Wr a Gwraig, fod in helpu ymlaen gynnydd grâs in eu gilydd, megis drwy gydymddiddan in fynych am bethau da; in enwedigol am yr hyn a glywont drwy gyhoeddus ⟨p. 145⟩Weinidogaeth y Gair; felly hefyd drwy ddyfal gyflawni dyledswyddau-teuluaidd, in enwedigol Gweddi. Er bôd y ddyledswydd hon in perthyn in bennaf i'r Gŵr, etto fe ddylai 'r Wraig ddwyn hynny âr gôf iw Gŵr, os efe a'i hanghofia, a'i gynnhyrfu ef, os bid ef in ddiweddar.
Ac y mae 'n ddyledswydd berthynasol ar sy yn sefyll ar Wr a Gwraig, fod yn helpu ymlaen gynnydd grâs yn eu gilydd, megis drwy gydymddiddan yn fynych am bethau da; yn enwedigol am yr hyn a glywont drwy gyhoeddus ⟨p. 145⟩Weinidogaeth y Gair; felly hefyd drwy ddyfal gyflawni dyledswyddau-teuluaidd, yn enwedigol Gweddi. Er bôd y ddyledswydd hon yn perthyn yn bennaf i'r Gŵr, etto fe ddylai 'r Wraig ddwyn hynny âr gôf iw Gŵr, os efe a'i hanghofia, a'i gynnhyrfu ef, os bydd ef yn ddiweddar.