A85479:619
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac y mae 'n ddyledswydd berthynasol ar sy in sefyll ar Wr a Gwraig, fod in helpu ymlaen gynnydd grâs in eu gilydd, megis drwy gydymddiddan in fynych am bethau da; in enwedigol am yr hyn a glywont drwy gyhoeddus ⟨p. 145⟩Weinidogaeth y Gair; felly hefyd drwy ddyfal gyflawni dyledswyddau-teuluaidd, in enwedigol Gweddi. Er bôd y ddyledswydd hon in perthyn in bennaf i'r Gŵr, etto fe ddylai 'r Wraig ddwyn hynny âr gôf iw Gŵr, os efe a'i hanghofia, a'i gynnhyrfu ef, os bid ef in ddiweddar.
Ac y mae 'n ddyledswydd berthynasol ar sy yn sefyll ar Wr a Gwraig, fod yn helpu ymlaen gynnydd grâs yn eu gilydd, megis drwy gydymddiddan yn fynych am bethau da; yn enwedigol am yr hyn a glywont drwy gyhoeddus ⟨p. 145⟩Weinidogaeth y Gair; felly hefyd drwy ddyfal gyflawni dyledswyddau-teuluaidd, yn enwedigol Gweddi. Er bôd y ddyledswydd hon yn perthyn yn bennaf i'r Gŵr, etto fe ddylai 'r Wraig ddwyn hynny âr gôf iw Gŵr, os efe a'i hanghofia, a'i gynnhyrfu ef, os bydd ef yn ddiweddar.
V. Dyledswydd arall ar y nail ir llall yw, Celu a chuddio gwendid eu gilydd. Nid oes na Gŵr na Gwraig heb eu gwendid; am hynny eich doethineb fŷdd celu hwunw, cyn belled ac y galloch gŷd â chydwybod dda. Ac mewn gwirionedd, ûn weithred a gorchwyl o gariad yw hon, ceifio cuddio a chelu gwendid y sawl a garant. Mor feius gan hynny ydynt hwy y sawl a gymmerant bob achlysur i danu ar lêd wendid eu gilydd, ac in fynych o weithiau a ddywedant gelwydd ar eu gilydd? Y bay hwn sydd fwy o lawyer o ran daubeth.
V. Dyledswydd arall ar y naill ir llall yw, Celu a chuddio gwendid eu gilydd. Nid oes na Gŵr na Gwraig heb eu gwendid; am hynny eich doethineb fŷdd celu hwunw, cyn belled ac y galloch gŷd â chydwybod dda. Ac mewn gwirionedd, ûn weithred a gorchwyl o gariad yw hon, ceifio cuddio a chelu gwendid y sawl a garant. Mor feius gan hynny ydynt hwy y sawl a gymmerant bob achlysur i danu ar lêd wendid eu gilydd, ac yn fynych o weithiau a ddywedant gelwydd ar eu gilydd? Y bai hwn sydd fwy o lawer o ran dau beth.