A85479:643
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Wrth yr enwau a'r titlau a roddir ir gŵr in yr Scrythur, y rhai sy in arwyddocau goruchafiaeth ynddo ef, megis Arglwydd, 1 Pet. 3. 6. Lbywodraethŵr, Dih. 2. 17. Pen, 1 Cor. 11. 3. ar cyffelyb. Caniattau yr ydwyf in wîr nad oes and ychydig jawn o anghydweddwch, ac anghyffelybrwydd bychan rhwng Gŵr a Gwraig, a nhwythau ill dau in llywodraethwŷr yr unrhyw Deulu, in Rhieni ir un Plant, a chydetifeddion grâs y bywyd, etto gan ddarfod ⟨p. 149⟩i Dduw ordeinio ymddarostyngiad o dû'r Wraig mor eglur, fe ddylid ei gydnabod.
3. Wrth yr enwau a'r titlau a roddir ir gŵr yn yr Scrythur, y rhai sy yn arwyddocau goruchafiaeth ynddo ef, megis Arglwydd, 1 Pet. 3. 6. Lbywodraethŵr, Dih. 2. 17. Pen, 1 Cor. 11. 3. ar cyffelyb. Caniattau yr ydwyf yn wîr nad oes ond ychydig iawn o anghydweddwch, ac anghyffelybrwydd bychan rhwng Gŵr a Gwraig, a nhwythau ill dau yn llywodraethwŷr yr unrhyw Deulu, yn Rhieni ir un Plant, a chydetifeddion grâs y bywyd, etto gan ddarfod ⟨p. 149⟩i Dduw ordeinio ymddarostyngiad o dû'r Wraig mor eglur, fe ddylid ei gydnabod.
II. Megis ac y dylei'r Wraig gydnabod â goruchafiaeth in ei Gŵr a'i roddi iddo, felly y dylei hi arfer y cyfryw ddyledswyddau ar sy in tarddu ac in goferu oddiwrth y cydnabod âg ef, y rhai a ellir eu dwyn ir tair hyn o geingciau neilltuol.
II. Megis ac y dylei'r Wraig gydnabod â goruchafiaeth yn ei Gŵr a'i roddi iddo, felly y dylei hi arfer y cyfryw ddyledswyddau ar sy yn tarddu ac yn goferu oddiwrth y cydnabod âg ef, y rhai a ellir eu dwyn ir tair hyn o geingciau neilltuol.