A85479:645
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Anrhydedd. Hyn y mae yr Arglwydd in ei ofyn gan bob rhai iselrâdd tu ag at y rhai Uchelrâdd, in y pummed Gorchymmyn, ac am hynny dyledswydd yw hi in perthyn i bob rhyw Wragedd o ran eu Gwŷr priod, y rhai ydynt oruchaf arnynt, megis eu Harglwyddi, eu Llywodraethwŷr, a'u Pennau. Yr Anrhydedd hwn a ddylei Wragedd ei ddangos,
1. Anrhydedd. Hyn y mae yr Arglwydd yn ei ofyn gan bob rhai iselrâdd tu ag at y rhai Uchelrâdd, yn y pummed Gorchymmyn, ac am hynny dyledswydd yw hi yn perthyn i bob rhyw Wragedd o ran eu Gwŷr priod, y rhai ydynt oruchaf arnynt, megis eu Harglwyddi, eu Llywodraethwŷr, a'u Pennau. Yr Anrhydedd hwn a ddylei Wragedd ei ddangos,
1. Drwy eu gwaith in gwneuther cyfrif oddifewn o'u Gwŷr priod, gan eu barnu in deilwng o anrhydedd er mwyn eu lle, am eu bod in Wŷr iddynt, pan bynnac fyddont ai cyfoethoccach a'i tlottach: ai hynach ai jevangach nâ hwy eu hunain.
1. Drwy eu gwaith yn gwneuther cyfrif oddifewn o'u Gwŷr priod, gan eu barnu yn deilwng o anrhydedd er mwyn eu lle, am eu bod yn VVŷr iddynt, pa un bynnac fyddont ai cyfoethoccach a'i tlottach: ai hynach ai ievangach nâ hwy eu hunain.
2. Drwy eu parch iddynt oddiallan, yr hwn a ddylent eu eglurhau drwy eu parchedig ymddygiad, a'u hymadrodd, gan roddi iddynt y cyfryw enwau ar sy in arwyddocau goruchafiaeth, ac arnynt flâs o barchedigaeth.
2. Drwy eu parch iddynt oddiallan, yr hwn a ddylent eu eglurhau drwy eu parchedig ymddygiad, a'u hymadrodd, gan roddi iddynt y cyfryw enwau ar sy yn arwyddocau goruchafiaeth, ac arnynt flâs o barchedigaeth.