A85479:648
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Caingc arall o ymddarostyngiad y Wraig, yw Addfwynder, yr hyn a ddylei hi ei ddangos. Megis drwy gymmeryd ei hargyoeddi gan ei Gwr in llonyddaidd, Felly hefyd drwy fod in ewyllysgar i gymmeryd ei chynghori gan ei Gŵr, gan fod in barod i ddilyn ei gyngor da ef: etto os oes gan y Wraig olwg craffach, a'i bod in canfod in well nâ'i Gŵr yr hyn a orchymmynnodd Duw, er nas gall hi mor Ymawdurdodi ar ei Gŵr, 1 Tim. 2. 12. etto hi a all, a rhaid yw iddi mewn pob gostyngeiddrwydd ei berswadio a'i gynghori ef ir hyn sydd dda. A dedwydd yw 'r Gŵr hwnnw (os medr ef ganfod ei ddedwyddwch ei hun) ym mynwes yr hwn y rhoddes yr Arglwydd gynghorwraig mor ddaionus.
2. Caingc arall o ymddarostyngiad y Wraig, yw Addfwynder, yr hyn a ddylei hi ei ddangos. Megis drwy gymmeryd ei hargyoeddi gan ei Gwr yn llonyddaidd, Felly hefyd drwy fod yn ewyllysgar i gymmeryd ei chynghori gan ei Gŵr, gan fod yn barod i ddilyn ei gyngor da ef: etto os oes gan y Wraig olwg craffach, a'i bod yn canfod yn well nâ'i Gŵr yr hyn a orchymmynnodd Duw, er nas gall hi mor Ymawdurdodi ar ei Gŵr, 1 Tim. 2. 12. etto hi a all, a rhaid yw iddi mewn pob gostyngeiddrwydd ei berswadio a'i gynghori ef ir hyn sydd dda. A dedwydd yw 'r Gŵr hwnnw (os medr ef ganfod ei ddedwyddwch ei hun) ym mynwes yr hwn y rhoddes yr Arglwydd gynghorwraig mor ddaionus.
3. Caingc arall o ymddarostyngiad y Wraig, yw Ʋ fudd dod; ac mewn gwirionedd dymma y rhan bennaf o'r ymostyngiad hwnnw, y mae yr Apostol in ei ofyn gan ⟨p. 150⟩Wragedd iŵ Gwŷr, Y gwragedd ymostyngwch i'ch Gwŷr priod, Ephes. 5. 22. A'r Apostol Petr sy in gorchymmyn y ddyledswydd hon i Wragedd, drwy siampl Sarah, yr hon a ufuddhaodd i Abraham, 1 Pet. 3. 6.