A85479:65
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Fôd meddyliau dryg-chwantus, balch, ac annuwiol in bechodeu gweithredol, er na thorront allan ir weithred; Canys meddyliau, er eu bôd oddi fewn, etto y maent in weithrediadau yr enaid; ac in yr hyn y maent in ddrwg, y maent in bechadurus. Craffwch ar yr hyn y ddywedodd Petr wrth Simon Magus, Act. 8. 22. Edifarhâ, a gweddia Dduw a faddevir i ti feddyl-fryd dy gallon, megis ac pe buasei ei ⟨p. 13⟩ddrwg feddyliau ef in fwy pechod nâ'i holl bechodau eraill ef.
I. Fôd meddyliau dryg-chwantus, balch, ac annuwiol yn bechodeu gweithredol, er na thorront allan ir weithred; Canys meddyliau, er eu bôd oddi fewn, etto y maent yn weithrediadau yr enaid; ac yn yr hyn y maent yn ddrwg, y maent yn bechadurus. Craffwch ar yr hyn y ddywedodd Petr wrth Simon Magus, Act. 8. 22. Edifarhâ, a gweddia Dduw a faddeuir i ti feddyl-fryd dy galon, megis ac pe buasei ei ⟨p. 13⟩ddrwg feddyliau ef yn fwy pechod nâ'i holl bechodau eraill ef.
2. Nid yw Meddyliau drwg in unic in bechadurus ynddynt eu hunain, eithr y maent hwy hefyd in achos o bôb pechod mewn geiriau a gweithredoedd; Canys chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod, Jac. 1. 15. Wedi i feddyliau trachwantus ymddwyn in y gallon, buan yr escorant ar bechod, gan dory allan i weithredoedd o fudreddi ac aflendid.
2. Nid yw Meddyliau drwg yn unic yn bechadurus ynddynt eu hunain, eithr y maent hwy hefyd yn achos o bôb pechod mewn geiriau a gweithredoedd; Canys chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod, Jac. 1. 15. Wedi i feddyliau trachwantus ymddwyn yn y galon, buan yr escorant ar bechod, gan dorri allan i weithredoedd o fudreddi ac aflendid.