A85479:66
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Nid yw Meddyliau drwg in unic in bechadurus ynddynt eu hunain, eithr y maent hwy hefyd in achos o bôb pechod mewn geiriau a gweithredoedd; Canys chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod, Jac. 1. 15. Wedi i feddyliau trachwantus ymddwyn in y gallon, buan yr escorant ar bechod, gan dory allan i weithredoedd o fudreddi ac aflendid.
2. Nid yw Meddyliau drwg yn unic yn bechadurus ynddynt eu hunain, eithr y maent hwy hefyd yn achos o bôb pechod mewn geiriau a gweithredoedd; Canys chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod, Jac. 1. 15. Wedi i feddyliau trachwantus ymddwyn yn y galon, buan yr escorant ar bechod, gan dorri allan i weithredoedd o fudreddi ac aflendid.
3. Ystyriwch, fôd yr Arglwydd mor fanwl in dal sulw ar bôb meddyliau pechadurus oddifewn, ac y mae ef ar weithredoedd pechadnrus oddiallan. Mae ef in holl-wybodus, ac a edwyn bôb peth; je efe yw profwr a chwiliwr ein calonnau, ac felly y mae ef in gydnabyddus a phôb meddwl offer, balch, godinebus, ac annuwiol, ar sy in ein calonnau ni, er nad yw dynion in gwybod oddi wrthynt hwy. Ebe Ddafydd wrth Dduw, Psal. 139. 2. Deelli fy meddwl o bell, hynny yw, er bôd Duw ym mhell in y nefoedd, etto y mae efe cyn belled in-gwybod pôb peth, ac y mae hid in oed ein meddyliau ni in hyspys iddo fe: neu ynte yr ystyr yw, y mae ein bwriadau ni, ym mhell cyn iddynt gael eu hymddwyn in y meddwl, in gydnabyddus iddo fe.
3. Ystyriwch, fôd yr Arglwydd mor fanwl yn dal sulw ar bôb meddyliau pechadurus oddifewn, ac y mae ef ar weithredoedd pechadnrus oddiallan. Mae ef yn holl-wybodus, ac a edwyn bôb peth; ie efe yw profwr a chwiliwr ein calonnau, ac felly y mae ef yn gydnabyddus a phôb meddwl ofer, balch, godinebus, ac annuwiol, ar sy yn ein calonnau ni, er nad yw dynion yn gwybod oddi wrthynt hwy. Ebe Ddafydd wrth Dduw, Psal. 139. 2