A85479:660
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Eu dwyn hwynt i fynu in ofn ac addysc yr Arglwydd; y ddyledswydd hon in enwedigol y mae 'r Apostol Paul in ei hyrddu ar dadau a Mammau, A chwithau dadau, medd efe, maethwch eich plant in addysc ac athrawiaeth yr Arglwydd, Ephes. 6. 4. Gedwch i'ch gofal pennaf fôd, nid pa fôdd iw gwneuthur hwynt in gyfoethogion, and in grefyddol, pa fôdd i weithio purr ofn Duw in eu heneidiau hwynt. fall megis ac y darfu i Dduw o'i anfeidrol ddaioni eu gwneuthur hwy in blant i chwi drwy Genhedliad naturiol, felly y dylech chwithau ymegnio a gwneuthur eich goreu ar eu gwneuthur hwynt in Blant iddo ef, trwy dduwiol a chrefyddol ddygiad i fynu. Awstin in ei bummed Llyfr o Gyffession, wrth lefaru am ei fam Monica, sy in dywedyd, Ddarfod iddi escor o ran ei anedigaeth yfprydol ef mewn mwy gofid a gofal, nag o ran ei anedigaeth naturiol. Ac mewn gwirionedd y cyffelyb offal a ⟨p. 152⟩gofid a ddylei fôd ym mhob Rhieni tu ag at eu Plant. Heb dybied may digon iddynt eu dwyn hwynt i fynu i ryw Gelfyddyd dda, drwy yr hyn y gallont fyw ddŷdd a ddaw: Eithr rhaid yw iddynt hefyd eu dwyn hwynt i fynu in ofn Duw, gan ddyscu iddynt ei wasanaethu ef ymma felly, fell y gallont fyw gydag ef in y Nefoedd in dragwyddol.
II. Eu dwyn hwynt i fynu yn ofn ac addysc yr Arglwydd; y ddyledswydd hon yn enwedigol y mae 'r Apostol Paul yn ei hyrddu ar dadau a Mammau, A chwithau dadau, medd efe, maethwch eich plant yn addysc ac athrawiaeth yr Arglwydd, Ephes. 6. 4. Gedwch i'ch gofal pennaf fôd, nid pa fôdd iw gwneuthur hwynt yn gyfoethogion, ond yn grefyddol, pa fôdd i weithio pur ofn Duw yn eu heneidiau hwynt. fal megis ac y darfu i Dduw o'i anfeidrol ddaioni eu gwneuthur hwy yn blant i chwi drwy Genhedliad naturiol, felly y dylech chwithau ymegnio a gwneuthur eich goreu ar eu gwneuthur hwynt yn Blant iddo ef, trwy dduwiol a chrefyddol ddygiad i fynu. Awstin yn ei bummed Llyfr o Gyffession, wrth lefaru am ei fam Monica, sy yn dywedyd, Ddarfod iddi escor o ran ei anedigaeth yfprydol ef mewn mwy gofid a gofal, nag o ran ei anedigaeth naturiol. Ac mewn gwirionedd y cyffelyb ofal a ⟨p. 152⟩gofid a ddylei fôd ym mhob Rhieni tu ag at eu Plant. Heb dybied mai digon iddynt eu dwyn hwynt i fynu i ryw Gelfyddyd dda, drwy yr hyn y gallont fyw ddŷdd a ddaw: Eithr rhaid yw iddynt hefyd eu dwyn hwynt i fynu yn ofn Duw, gan ddyscu iddynt ei wasanaethu ef ymma felly, fel y gallont fyw gydag ef yn y Nefoedd yn dragwyddol.