A85479:663
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. Pa cyn gynted y dylem ni ddechreu dyscu ein plant?
Atteb. Pan allont ac y medront ddyscu dim ar sydd ddrwg, mae hi in lawn amser i ddyscu iddynt ryw beth ar sydd dda. Solomon a ddywaid, Pan oedd ef in jevangc ac in diner, ei dad ai dyscei. Dih. 4. 3, 4. A gwneuthur o'i fam ef felly hefyd, chwi a ellwch ddarllen in y bennod olaf o lyfr y Diharebion.
Atteb. Pan allont ac y medront ddyscu dim ar sydd ddrwg, mae hi yn llawn amser i ddyscu iddynt ryw beth ar sydd dda. Solomon a ddywaid, Pan oedd ef yn ievangc ac yn dyner, ei dad ai dyscei. Dih. 4. 3, 4. A gwneuthur o'i fam ef felly hefyd, chwi a ellwch ddarllen yn y bennod olaf o lyfr y Diharebion.
2, Dyscwch hwynt mewn prŷd in y rhan weithredawl o Gristianogaeth, drwy alw arnynt in fynych i ddarllen yr Scrythyrau; beunydd i offrwn i fynu Aberth borevol a phrydnawnol o weddi a moliant i Dduw; in wastadol i roddi diolch o flaen prydau bwyd, ac ar eu hôl, in ofalus i ochelyd pob pechodau adnabyddus, ac in ddiwyd i gyflawni pob dyledswydd wybyddus, a hynny o ran cydwybod. Hyn a ganmolodd yr Arglwydd in Abraham, Mi a'i hadwaen ef, medd Duw, y gorchymmyn efe iw Blant, ac iw dylwyth âr ei ôl, gadw o honynt ford yr Arglwydd gan wneuthur cyfiawnder a barn, Gen. 18. 19.
2, Dyscwch hwynt mewn prŷd yn y rhan weithredawl o Gristianogaeth, drwy alw arnynt yn fynych i ddarllen yr Scrythyrau; beunydd i offrwn i fynu Aberth boreuol a phrydnawnol o weddi a moliant i Dduw; yn wastadol i roddi diolch o flaen prydau bwyd, ac ar eu hôl, yn ofalus i ochelyd pob pechodau adnabyddus, ac yn ddiwyd i gyflawni pob dyledswydd wybyddus, a hynny o ran cydwybod. Hyn a ganmolodd yr Arglwydd yn Abraham, Mi a'i hadwaen ef, medd Duw, y gorchymmyn efe iw Blant, ac iw dylwyth âr ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd gan wneuthur cyfiawnder a barn,