A85479:665
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2, Dyscwch hwynt mewn prŷd in y rhan weithredawl o Gristianogaeth, drwy alw arnynt in fynych i ddarllen yr Scrythyrau; beunydd i offrwn i fynu Aberth borevol a phrydnawnol o weddi a moliant i Dduw; in wastadol i roddi diolch o flaen prydau bwyd, ac ar eu hôl, in ofalus i ochelyd pob pechodau adnabyddus, ac in ddiwyd i gyflawni pob dyledswydd wybyddus, a hynny o ran cydwybod. Hyn a ganmolodd yr Arglwydd in Abraham, Mi a'i hadwaen ef, medd Duw, y gorchymmyn efe iw Blant, ac iw dylwyth âr ei ôl, gadw o honynt ford yr Arglwydd gan wneuthur cyfiawnder a barn, Gen. 18. 19.
2, Dyscwch hwynt mewn prŷd yn y rhan weithredawl o Gristianogaeth, drwy alw arnynt yn fynych i ddarllen yr Scrythyrau; beunydd i offrwn i fynu Aberth boreuol a phrydnawnol o weddi a moliant i Dduw; yn wastadol i roddi diolch o flaen prydau bwyd, ac ar eu hôl, yn ofalus i ochelyd pob pechodau adnabyddus, ac yn ddiwyd i gyflawni pob dyledswydd wybyddus, a hynny o ran cydwybod. Hyn a ganmolodd yr Arglwydd yn Abraham, Mi a'i hadwaen ef, medd Duw, y gorchymmyn efe iw Blant, ac iw dylwyth âr ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd gan wneuthur cyfiawnder a barn, Gen. 18. 19.
3, Dygwch hwynt gydâ chwi ir Ordinhadau cyhoeddus, cyn gynted ac y medront gofio dim ar a glywant. Pan ddarllennodd Joshua eiriau'r Gyfraith ger bron Cynnulleidfa Israel, fe ddywedir in eglur, fod y gwragedd a'r plant ym mhlith y gwŷr, Jos. 8. 35.
3, Dygwch hwynt gydâ chwi ir Ordinhadau cyhoeddus, cyn gynted ac y medront gofio dim ar a glywant. Pan ddarllennodd Josuah eiriau'r Gyfraith ger bron Cynnulleidfa Israel, fe ddywedir yn eglur, fod y gwragedd a'r plant ym mhlith y gwŷr, Jos. 8. 35.