A85479:669
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
6. Byddwch siamplau o radlonrwydd a duwioldeb i'ch plant. Canys y gwirionedd yw, y mae grim mawr mewn Ecsamplau i dynnu eraill nail a'i at dda ai at ddrwg. Ac in arferol, naturiaeth Plant yw dilyn eu Rhieni; Ac am hynny pa fodd y mae 'n perthyn i Rieni edrych ar eu ffŷrdd a'u helyntiau, in enwedigol pa fodd yr ymddygont ger bron eu Plant y rhai ydynt dueddol jawn i ddilyn eu siamplau hwy? Oh na feddyliai Rieni in ddifrifol am hyn, fell y galley yr ystyriaeth o hyn eu galw hwy in ôl oddiwrth bob helyntiau gorwag ac annuwiol▪ rhag iddynt drwy eu drwg eu drwg siampl wneuthur eu plant in blant uffern y dau cymmaint mwy, nac a oeddynt wrth naturiaeth.
6. Byddwch siamplau o radlonrwydd a duwioldeb i'ch plant. Canys y gwirionedd yw, y mae grym mawr mewn Ecsamplau i dynnu eraill naill a'i at dda ai at ddrwg. Ac yn arferol, naturiaeth Plant yw dilyn eu Rhieni; Ac am hynny pa fodd y mae 'n perthyn i Rieni edrych ar eu ffŷrdd a'u helyntiau, yn enwedigol pa fodd yr ymddygont ger bron eu Plant y rhai ydynt dueddol iawn i ddilyn eu siamplau hwy? Oh na feddyliai Rieni yn ddifrifol am hyn, fel y gallei yr ystyriaeth o hyn eu galw hwy yn ôl oddiwrth bob helyntiau gorwag ac annuwiol▪ rhag iddynt drwy eu drwg eu drwg siampl wneuthur eu plant yn blant uffern y dau cymmaint mwy, nac a oeddynt wrth naturiaeth.
7. Byddwch siccr nad anghofioch weddio ar Dduw beunydd drostynt hwy, in enwedigol ar iddo ef eu cynnyscaeddu hwynt ag jachusawl a sancteiddrym radau, fall megis ac y cynnyddant mewn oedran, y gallont hwy felly gynnyddu mewn grâs, ac yngwybodaeth ein Harglwydd a'n jachawdwr Jesus Grist. Ac o ran eich annogaeth gwybyddwch, Mai anfynych y mae Plant o lawyer o weddiau in pallu, neu in prifio in ddrwg. Mae rhieni in ofalus in gyffredinol am drysori cyfoeth a golud iw plant, oh na byddent hwy mor ofalus a thrysori trysor o weddiau droftynt in y Nefoedd, yr hyn in ddiammeu a ddigwydd i fôd in gynnyscaeth oreu i'w plant hwy.
7. Byddwch siccr nad anghofioch weddio ar Dduw beunydd drostynt hwy, yn enwedigol ar iddo ef eu cynnyscaeddu hwynt ag iachusawl a sancteiddrym radau, fal megis ac y cynnyddant mewn oedran, y gallont hwy felly gynnyddu mewn grâs, ac yngwybodaeth ein Harglwydd a'n iachawdwr Jesu Grist. Ac o ran eich annogaeth gwybyddwch, Mai anfynych y mae Plant o lawer o weddiau yn pallu, neu yn prifio yn ddrwg. Mae rhieni yn ofalus yn gyffredinol am drysori cyfoeth a golud iw plant, oh na byddent hwy mor ofalus a thrysori trysor o weddiau droftynt yn y Nefoedd, yr hyn yn ddiammeu a ddigwydd i fôd yn gynnyscaeth oreu i'w plant hwy.