A85479:670
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
7. Byddwch siccr nad anghofioch weddio ar Dduw beunydd drostynt hwy, in enwedigol ar iddo ef eu cynnyscaeddu hwynt ag jachusawl a sancteiddrym radau, fall megis ac y cynnyddant mewn oedran, y gallont hwy felly gynnyddu mewn grâs, ac yngwybodaeth ein Harglwydd a'n jachawdwr Jesus Grist. Ac o ran eich annogaeth gwybyddwch, Mai anfynych y mae Plant o lawyer o weddiau in pallu, neu in prifio in ddrwg. Mae rhieni in ofalus in gyffredinol am drysori cyfoeth a golud iw plant, oh na byddent hwy mor ofalus a thrysori trysor o weddiau droftynt in y Nefoedd, yr hyn in ddiammeu a ddigwydd i fôd in gynnyscaeth oreu i'w plant hwy.
7. Byddwch siccr nad anghofioch weddio ar Dduw beunydd drostynt hwy, yn enwedigol ar iddo ef eu cynnyscaeddu hwynt ag iachusawl a sancteiddrym radau, fal megis ac y cynnyddant mewn oedran, y gallont hwy felly gynnyddu mewn grâs, ac yngwybodaeth ein Harglwydd a'n iachawdwr Jesu Grist. Ac o ran eich annogaeth gwybyddwch, Mai anfynych y mae Plant o lawer o weddiau yn pallu, neu yn prifio yn ddrwg. Mae rhieni yn ofalus yn gyffredinol am drysori cyfoeth a golud iw plant, oh na byddent hwy mor ofalus a thrysori trysor o weddiau droftynt yn y Nefoedd, yr hyn yn ddiammeu a ddigwydd i fôd yn gynnyscaeth oreu i'w plant hwy.
Oh na byddei i bob Rhieni fell hyn wneuthur eu goreu ar ddwyn eu plant i fynu in ofn ac addysc yr Arglwydd, fell megis ac yr oeddynt hwy in offerau iw cenhedlu hwynt in y cnawd, y gallant hwy felly fôd in offerau iw ⟨p. 154⟩cenhedlu hwynt in y ffŷdd! Yr hon yw 'r ddyledswydd bennaf ar sy in sefyll ar Rieni tuagat eu plant.
Oh na byddei i bob Rhieni fel hyn wneuthur eu goreu ar ddwyn eu plant i fynu yn ofn ac addysc yr Arglwydd, fel megis ac yr oeddynt hwy yn offerau iw cenhedlu hwynt yn y cnawd, y gallant hwy felly fôd yn offerau iw ⟨p. 154⟩cenhedlu hwynt yn y ffŷdd! Yr hon yw 'r ddyledswydd bennaf ar sy yn sefyll ar Rieni tuagat eu plant.