A85479:680
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Drwy ymroddi in llawen iw Heirchion a'u Gorchymmynnion hwy, gan fôd in barod i wneuthur yr hyn a ofynnont ganddynt, a hynny er mwyn cydwybod, je i orchymmyn Duw, yr hwn sydd in gofyn y ddyledswydd hon oddiar eu dwylo hwynt; canys medd yr Apostol, Col. 3. 20. Y Plant, ufyddhewch i'ch rhieni ym mhôb peth; canys hyn sydd in rhyngu bôdd ir Arglwydd in dda. A thrachefn, Ephes. 6. 1. Y Plant ufyddhewch i'ch rhieni in yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn. In y man cyntaf, y mae ym mhôb peth. In yr olaf, y mae in yr Arglwydd; wrth yr hyn yr arwyddoceir, may rhaid iw i Ufydd-dod Plant fôd ym mhôb peth onest a chyfreithlon, a fo 'n cyttuno â Gair Duw; in gymmaint a phe gorchymmynnei eu Rhieni iddynt wneuthur dim yngwrthwyneb i Air Duw; in hynny y mae 'n rhaid iddynt ufuddhau i Dduw, ac nid iw Rhieni. Canys nid yw Plant rwym i ufyddhau iw Rhieni daiarol ddim pellach, nag y gallo gŷdsefyll gŷd ag ufydd-dod i Dduw eu Tâd nefol.
1. Drwy ymroddi yn llawen iw Heirchion a'u Gorchymmynnion hwy, gan fôd yn barod i wneuthur yr hyn a ofynnont ganddynt, a hynny er mwyn cydwybod, ie i orchymmyn Duw, yr hwn sydd yn gofyn y ddyledswydd hon oddiar eu dwylo hwynt; canys medd yr Apostol, Col. 3. 20. Y Plant, ufyddhewch i'ch rhieni ym mhôb peth; canys hyn sydd yn rhyngu bôdd ir Arglwydd yn dda. A thrachefn, Ephes. 6. 1. Y Plant ufyddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn. Yn y man cyntaf, y mae ym mhôb peth. Yn yr olaf, y mae yn yr Arglwydd; wrth yr hyn yr arwyddoceir, mai rhaid iw i Ufydd-dod Plant fôd ym mhôb peth onest a chyfreithlon, a fo 'n cyttuno â Gair Duw; yn gymmaint a phe gorchymmynnei eu Rhieni iddynt wneuthur dim yngwrthwyneb i Air Duw; yn hynny y mae 'n rhaid iddynt ufuddhau i Dduw, ac nid iw Rhieni. Canys nid yw Plant rwym i ufyddhau iw Rhieni daiarol ddim pellach, nag y gallo gŷdsefyll gŷd ag ufydd-dod i Dduw eu Tâd nefol.