A85479:684
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Y cyntaf sydd ganmoledig in yr Scrythur drwy arfer profedic plant duwiol, megis Jacob, Samuel, Dafydd, ac eraill. Gen. 28. 2. 1 Sam. 1. 28. 1 Sam. 17. 15. Ac in ddiammeu, gan fôd Rhieni in foddion o ddwyn eu plant i fynu in y bŷd, nes eu bôd in gymmwys i Alwedigaethau, a hynny nid heb offal a thrall mawr, onid yw o'r ⟨p. 157⟩faith gymmhwysaf a chyfiawnaf iw gair a'u cyngor hwy gael eu cymmeryd, in dewis eu Galwedigaeth a'u helynt o fywyd?
1. Y cyntaf sydd ganmoledig yn yr Scrythur drwy arfer profedic plant duwiol, megis Jacob, Samuel, Dafydd, ac eraill. Gen. 28. 2. 1 Sam. 1. 28. 1 Sam. 17. 15. Ac yn ddiammeu, gan fôd Rhieni yn foddion o ddwyn eu plant i fynu yn y bŷd, nes eu bôd yn gymmwys i Alwedigaethau, a hynny nid heb ofal a thraul mawr, onid yw o'r ⟨p. 157⟩fath gymmhwysaf a chyfiawnaf iw gair a'u cyngor hwy gael eu cymmeryd, yn dewis eu Galwedigaeth a'u helynt o fywyd?
2. Ac megis in eu Galwedigaethau, felly hefyd in eu Priodasau, ac nid i briodi heb eu cydsynniad hwy, yr hyn y mae hid in oed goleuni nature in ei ddyscu, a Duw ei hun in ei orchymmyn, pan yw ef in rhoddi siars ar Rieni, I roddi eu merched i wŷr, ac i gymmeryd gwragedd iw meibion, Deut. 7. 3. Yr hyn sydd o anghenrhaid in arwyddocau, na ddylei blant gymmeryd Gwragedd neu Wŷr iddynt eu hunain heb, (in enwedic yngwrthwyneb i) gydsynnied eu Rhieni. Ac am hynny y cyfryw blant ar a anturiant ymgyssylltu mewn Priodas heb gydsynniad eu Rhieni, pa fôdd y gallant hwy ddisgwyl ddim bendith oddiwrth Dduw? je mae iddynt achos in hytrach i ofni melltith Dduw arnynt hwy a'u hiliogaeth. Pa fôdd y syrthiodd melltith Dduw ar Esau, a'i hiliogaeth, oblegit ddo briodi in erbyn cydsynniad ei Rieni, gan gymmeryd ddo ei hun Wragedd, y rhai oeddynt chwerwder yspryd i Isaac c i Rebecca?