A85479:690
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
III. Dyledswydd arall y mae Plant in ei dylu iw Rhieni, yw Diolchgarwch, self, diolchgar dalu eu cariad a'u gofal hwynt in ôl, yr hyn y mae yr Apostol in ei ofyn gan bob plant mewn ymadroddion eglur, self, Talu'r pwyth iw rhieni; canys hynny, medd efe, sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw, 1 Tim. 5. 4. Y talu 'r pwyth ymma a ellir ac a ddylid ei eglurhau amryw ffyrdd. Megis,
III. Dyledswydd arall y mae Plant yn ei dylu iw Rhieni, yw Diolchgarwch, sef, diolchgar dalu eu cariad a'u gofal hwynt yn ôl, yr hyn y mae yr Apostol yn ei ofyn gan bob plant mewn ymadroddion eglur, sef, Talu'r pwyth iw rhieni; canys hynny, medd efe, sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw, 1 Tim. 5. 4. Y talu 'r pwyth ymma a ellir ac a ddylid ei eglurhau amryw ffyrdd. Megis,
1. Drwy eu porthi hwynt in ôl eu heisiau, os Duw a ddyru'r Gallu. Ymarfer Joseph in hyn a osodir ger ein bronnau megis Portreiad, yr hwn ac yntef mewn hawddfŷd, a'i Dâd mewn diffyg, in gyntaf a anfonodd ŷd iddo in rhâd allan o'r Aipht, ac ar ôl hynny a ddanfonodd amdano ef ir Aipht, ac yno y cyfrannodd efe iddo ŷd in helaethlawn a phôb peth angenrheidiol arall; canys y mae'r text in dywedyd, Joseph hefyd â gynhaliodd ei dâd a'i frodyr, a holl dylwyth ei dâd â bara, in ôl eu teuluoedd, Gen. 47. 12. Ac fe gofir am Ruth, na ddarfu iddi hi in unic loffa i Naomi ei Chwegr, eithr â chenthi fwyd a roddesid iddi gan weision Boaz o ran ei llonnychu, hi a roddodd iw mam yr hyn a weddillasei hi, wedi cael digon, Ruth. 2. 18. Mi a ddarllennais am ferch, yr hon yr oedd ei Thâd wedi ei farnu iw newynu i farwolaeth, ac a• hynny ni oddefid i nêb ddwyn bwyd iddo, hi a rods ei bronnau ei hun iddo ef iw sugno. Mor feius gan hynny, je mor annatturiol ydyw'r cyfryw Blant, y rhai y mae eu Rhieni in Dlodion, a nhwythau in gallu eu porth hwynt, er hynny a oddefant iddynt fôd mewn eisiau o bethau angenrheidiol? Sanct Joan a ddywaid, Nâd oe mo gariad Duw in aros ynddo ef, yr hwn sydd in cae ei dostur oddiwrth ei frawd, 1 Joan 3. 17. Pa fodd gan hynny y gall ef aros in y Plentyn hwnnw, yr hwn a gaeo ei dostur in erbyn ei Dâd neu ei fam ei hun? Yr hwn a chanddo nid in unic ddigonolrwydd, and hefyd helaethrwydd o