A85479:701
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Rhoddi Physygwriaeth iddynt pan ydynt gleifion. Canys gorchymmynnir i feistreid wneuthur iw gweision yr hyn sydd gyfiawn ac uniawn, Col. 4. 1. Ac onid yw gyfiawn ac uniawn ir gweision hynny ar sy in llafurio dross eu Meistred in amser eu hiechyd, gael gan eu Meistreid ofalu drostynt in amser eu clefyd? Gofal y Canwriad dross ei wâs oedd glâf a adawyd mewn coffadwriaeth er mwyn i ni wneuthur ar ei ôl, yr hwn a arferodd y moddion goreu a wyddei i gael o'i wâs ef ei jechyd; yr hyn oedd dyfod at Grist. Mat. 8. 6. Cyweithasrwydd y Canwriad ymma ac yntef in un o'r Cenhedloedd, a eill fôd in dystiolaeth in erbyn Anghyweithasrwydd bagad o Gristianogion y rhai ni ofalant and ychydig am eu gweision a'u morwynion cleifion.
3. Rhoddi Physygwriaeth iddynt pan ydynt gleifion. Canys gorchymmynnir i feistreid wneuthur iw gweision yr hyn sydd gyfiawn ac uniawn, Col. 4. 1. Ac onid yw gyfiawn ac uniawn ir gweision hynny ar sy yn llafurio dros eu Meistred yn amser eu hiechyd, gael gan eu Meistreid ofalu drostynt yn amser eu clefyd? Gofal y Canwriad dros ei wâs oedd glâf a adawyd mewn coffadwriaeth er mwyn i ni wneuthur ar ei ôl, yr hwn a arferodd y moddion goreu a wyddei i gael o'i wâs ef ei iechyd; yr hyn oedd dyfod at Grist. Mat. 8. 6. Cyweithasrwydd y Canwriad ymma ac yntef yn un o'r Cenhedloedd, a eill fôd yn dystiolaeth yn erbyn Anghyweithasrwydd bagad o Gristianogion y rhai ni ofalant ond ychydig am eu gweision a'u morwynion cleifion.
4. Bod heb eu gorthrymmu hwynt â gwaith, drwy eu gorchfygu â gormod o orchwyl, gan ofyn ganddynt fwy nag y allant in dda ddyfod o ben a'i wneuthur. Hyn a fyddei in greulonder mewn dŷn tu agat ei Anifail, mwy o lawyer mewn meistr tu ag at ei Wâs. In siccr yr Aiphtiaid a driniasant yr Israeliaid mor greulon, a griddfannu o honynt tan eu beichiau, y rhai yr escynnodd eu griddfannau i glustiau Duw, yr hwn ar hynny a ddescynnodd iw gwaredu hwynt allan o'u caethiwed,