A85479:704
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Dyledswyddau Meistred tu ag at Eneidiau eu Gwasanaeth ddynion ydynt,
1. Dyscu a Chatechisio eu Gweision a'u morwynion ym Mhrif-byngciau crefydd. Canys os yw in ddyledswydd ar bob Penteulu i ddarparu ymborth i gyrph eu Gweision, pa faint mwy y dylent hwy ofalu am borthiant eu heneidiau hwynt? je gwybydded pob Meistreid▪ Teuluoedd, y gorchymynnir iddynt in eglur ddyscu a Chatechisio eu Gweision, fell y mae'r Gweinidog i ddyscu ei Braid; fall y tystia gorchymmyn Duw ir Israeliaid, Deut. 6, 7. Crybwyll am fy Nghyfreithiau pan eisteddych in dy dŷ, a phan gerddych ar y ford, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu. A Duw a eglurháodd mor gymmeradwy yw hynny ganddo ef, wrth ganmol Abrabam am ei arfer in hynny, Gen. 18. 19.
1. Dyscu a Chatechisio eu Gweision a'u morwynion ym Mhrif-byngciau crefydd. Canys os yw yn ddyledswydd ar bob Penteulu i ddarparu ymborth i gyrph eu Gweision, pa faint mwy y dylent hwy ofalu am borthiant eu heneidiau hwynt? ie gwybydded pob Meistreid▪ Teuluoedd, y gorchymynnir iddynt yn eglur ddyscu a Chatechisio eu Gweision, fel y mae'r Gweinidog i ddyscu ei Braidd; fal y tystia gorchymmyn Duw ir Israeliaid, Deut. 6, 7. Crybwyll am fy Nghyfreithiau pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu. A Duw a eglurháodd mor gymmeradwy yw hynny ganddo ef, wrth ganmol Abrabam am ei arfer yn hynny, Gen. 18. 19.