A85479:705
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Dyscu a Chatechisio eu Gweision a'u morwynion ym Mhrif-byngciau crefydd. Canys os yw in ddyledswydd ar bob Penteulu i ddarparu ymborth i gyrph eu Gweision, pa faint mwy y dylent hwy ofalu am borthiant eu heneidiau hwynt? je gwybydded pob Meistreid▪ Teuluoedd, y gorchymynnir iddynt in eglur ddyscu a Chatechisio eu Gweision, fell y mae'r Gweinidog i ddyscu ei Braid; fall y tystia gorchymmyn Duw ir Israeliaid, Deut. 6, 7. Crybwyll am fy Nghyfreithiau pan eisteddych in dy dŷ, a phan gerddych ar y ford, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu. A Duw a eglurháodd mor gymmeradwy yw hynny ganddo ef, wrth ganmol Abrabam am ei arfer in hynny, Gen. 18. 19.
1. Dyscu a Chatechisio eu Gweision a'u morwynion ym Mhrif-byngciau crefydd. Canys os yw yn ddyledswydd ar bob Penteulu i ddarparu ymborth i gyrph eu Gweision, pa faint mwy y dylent hwy ofalu am borthiant eu heneidiau hwynt? ie gwybydded pob Meistreid▪ Teuluoedd, y gorchymynnir iddynt yn eglur ddyscu a Chatechisio eu Gweision, fel y mae'r Gweinidog i ddyscu ei Braidd; fal y tystia gorchymmyn Duw ir Israeliaid, Deut. 6, 7. Crybwyll am fy Nghyfreithiau pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu. A Duw a eglurháodd mor gymmeradwy yw hynny ganddo ef, wrth ganmol Abrabam am ei arfer yn hynny, Gen. 18. 19.
2. Peri darllen yr Scrythyrau in fynych in y Teulu. Yr ydym ni in darllen ddarfod gorchymmyn i bobl Israel dan y Gyfraith scrifennu geiriau yr Arglwydd âr bŷst eu Tai, fell y gelid eu darllen hwy in fynych gan bawb o fewn y Tŷ. Deut. 6. 6, 9. Ar Apostol Paul a ddywaid, Preswylied Gair Christ ynoch.