A85479:709
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Pob Meistr in ei Deulu sydd Frenin, Prophwyd, ac Offeiriad. Mae ef in Frenin i lywodraethu ei Deulu, in Brophwyd i ddyscu ac athrawiaethu ei Deulu, ac in Offeiriad i offrwm Aberth o Weddi a diolch, nid in unic drosto ei hun, and hefyd dross bawb ar a orchymynnwyd iw lywodraeth ef▪ Gan hynny gwybydded pob Meistred Teuluoedd, may eu dyledswydd hwy, yr hon a ofyn Duw ganddynt, yw nid in unic gweddio ar eu pennau eu hunain (ac etto mi a fynnwn pe gwnai bawb hynny) eithr hefyd galw ynghŷd eu holl deulu, a bôd in enau iddynt at Dduw mewn gweddi, ir hyn y gellir eu hannog drwy rasol addewid Duw, Mai lle mae dau neu dry wedi ymgynnull in enw Christ, yno y bid efe in eu canol hwynt, Mat. 18. 20.
2. Pob Meistr yn ei Deulu sydd Frenin, Prophwyd, ac Offeiriad. Mae ef yn Frenin i lywodraethu ei Deulu, yn Brophwyd i ddyscu ac athrawiaethu ei Deulu, ac yn Offeiriad i offrwm Aberth o Weddi a diolch, nid yn unic drosto ei hun, ond hefyd dros bawb ar a orchymynnwyd iw lywodraeth ef▪ Gan hynny gwybydded pob Meistred Teuluoedd, mai eu dyledswydd hwy, yr hon a ofyn Duw ganddynt, yw nid yn unic gweddio ar eu pennau eu hunain (ac etto mi a fynnwn pe gwnai bawb hynny) eithr hefyd galw ynghŷd eu holl deulu, a bôd yn enau iddynt at Dduw mewn gweddi, ir hyn y gellir eu hannog drwy rasol addewid Duw, Mai lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn enw Crist, yno y bydd efe yn eu canol hwynt, Mat. 18. 20.
3. Meistr Teulu, drwy ei offrymmiad beunyddiol o forevol a phrydnawnol Aberth o weddi a moliant, a wnaiff ei dŷ in dŷ gweddi, neu in Deml fechan, yr hon a leinw Duw â'i bresennoldeb. Je Tŷ y Cristion a wneir drwy hyn in Eglwys Dduw, wrth wastadol gyflawni dyledswyddau sanctaidd, yr hyn sydd in anrhydedd mawr i deulu.
3. Meistr Teulu, drwy ei offrymmiad beunyddiol o foreuol a phrydnawnol Aberth o weddi a moliant, a wnaiff ei dŷ yn dŷ gweddi, neu yn Deml fechan, yr hon a leinw Duw â'i bresennoldeb. Ie Tŷ y Cristion a wneir drwy hyn yn Eglwys Dduw, wrth wastadol gyflawni dyledswyddau sanctaidd, yr hyn sydd yn anrhydedd mawr i deulu.