A85479:710
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Meistr Teulu, drwy ei offrymmiad beunyddiol o forevol a phrydnawnol Aberth o weddi a moliant, a wnaiff ei dŷ in dŷ gweddi, neu in Deml fechan, yr hon a leinw Duw â'i bresennoldeb. Je Tŷ y Cristion a wneir drwy hyn in Eglwys Dduw, wrth wastadol gyflawni dyledswyddau sanctaidd, yr hyn sydd in anrhydedd mawr i deulu.
3. Meistr Teulu, drwy ei offrymmiad beunyddiol o foreuol a phrydnawnol Aberth o weddi a moliant, a wnaiff ei dŷ yn dŷ gweddi, neu yn Deml fechan, yr hon a leinw Duw â'i bresennoldeb. Ie Tŷ y Cristion a wneir drwy hyn yn Eglwys Dduw, wrth wastadol gyflawni dyledswyddau sanctaidd, yr hyn sydd yn anrhydedd mawr i deulu.
4. Gweddiau Teulu ydynt foddion enwedigol i ddwyn bendith Dduw ar yr holl deulu, ac ar eu holl orchwylion cyfreithlon a gymmeront mewn law. Megis ac y bendithiodd ⟨p. 163⟩Duw dŷ Obed-Edom er mwyn yr Arch: felly y bendithia Duw y teuluoedd hynny in yr rhai y gelwir ar enw Duw, 2 Sam. 6. 11. Canys Duwioldeb sydd in fuddiol i bôb dim, in gystal mewn teuluoedd, ac mewn un gymdeithas arall.
4. Gweddiau Teulu ydynt foddion enwedigol i ddwyn bendith Dduw ar yr holl deulu, ac ar eu holl orchwylion cyfreithlon a gymmeront mewn llaw. Megis ac y bendithiodd ⟨p. 163⟩Duw dŷ Obed-Edom er mwyn yr Arch: felly y bendithia Duw y teuluoedd hynny yn yr rhai y gelwir ar enw Duw, 2 Sam. 6. 11. Canys Duwioldeb sydd yn fuddiol i bôb dim, yn gystal mewn teuluoedd, ac mewn un gymdeithas arall.