A85479:712
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Rheswm arall a ellir ei gymmeryd oddiwrth y perigl sydd o esceulufo y ddyledswydd hon o Weddi mewn Teulu, am fod y cyfryw ray in syrthio mewn perygl o lid a digofaint Duw, Tywallt dy lîd âr y Cenhedloedd y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw, medd y Prophwyd Jeremi. Pen. 10. 25. Y rhai 'n eiriau ydynt in cynnwys rhegfen ofnadwy in erbyn pob teuluoedd-diweddi. Ac y mae iw nodi, fôd y cyfryw ray ar sy in esceuluso y ddyledswydd hon o weddi in eu teulu, wedi eu cyssylltu â'r Cenhedloedd; a diammeu may cymmwys jawn, canys ym mhâ beth y maent hwy in rhagori ar y Cenhedloedd, y rhai nid oes ganddynt gymmaint a ffurf Duwioldeb in eu teuluoedd, ar y sawl y tywallta Duw ei lîd? Oh meddyliwch am hyn chwychwi bawb ar sydd heb wneuthur dim cydwybod o weddio beunydd gyd âch teuluoedd, ystyriwch hyn in dda, a gosodwch y peth at eich calonnau. Onid ydych chwi tan y felltith Brophwydol honno, ac in hyrwym o gael tywallt llîd a digofaint Duw, arnoch eich hunain, ac ar bawb ar sydd in perthyn i chwi? self eich Gwragedd, eich Plant, eich Gweision, je eich marsiandiaeth oll a'ch golud hefyd? Da y gellir scrifennu ar ddrysau 'r cyfryw day, fall y dywaid ûn, Arglwydd trugarhâ wrthym; am fod in siccr nad yw plâ Duw chwaith neppell oddiwrthynt, and in agos attynt.
5. Rheswm arall a ellir ei gymmeryd oddiwrth y perigl sydd o esceulufo y ddyledswydd hon o Weddi mewn Teulu, am fod y cyfryw rai yn syrthio mewn perygl o lid a digofaint Duw, Tywallt dy lîd âr y Cenhedloedd y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw, medd y Prophwyd Ieremi. Pen. 10. 25. Y rhai 'n eiriau ydynt yn cynnwys rhegfen ofnadwy yn erbyn pob teuluoedd-diweddi. Ac y mae iw nodi, fôd y cyfryw rai ar sy yn esceuluso y ddyledswydd hon o weddi yn eu teulu, wedi eu cyssylltu â'r Cenhedloedd; a diammeu mai cymmwys iawn, canys ym mhâ beth y maent hwy yn rhagori ar y Cenhedloedd, y rhai nid oes ganddynt gymmaint a ffurf Duwioldeb yn eu teuluoedd, ar y sawl y tywallta Duw ei lîd? Oh meddyliwch am hyn chwychwi bawb ar sydd heb wneuthur dim cydwybod o weddio beunydd gyd âch teuluoedd, ystyriwch hyn yn dda, a gosodwch y peth at eich calonnau. Onid ydych chwi tan y felltith Brophwydol honno, ac yn hyrwym o gael tywallt llîd a digofaint Duw, arnoch eich hunain, ac ar bawb ar sydd yn perthyn i chwi? sef eich Gwragedd, eich Plant, eich Gweision, ie eich marsiandiaeth oll a'ch golud hefyd? Da y gellir scrifennu ar ddrysau 'r cyfryw dai, fal y dywaid ûn, Arglwydd trugarhâ wrthym; am fod yn siccr nad yw plâ Duw chwaith neppell oddiwrthynt, ond yn agos attynt.