A85479:727
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Rhaid ich ufydd-dod fôd in hollawl i bôb peth ar a ofynnant gennych; a hynny y mae 'r Apostol in ei adrodd, Col. 3. 22. Y Gweision, medd ef, ufyddhewch ym mhob peth i'ch Meistreid, hynny yw, nid in unic in y cyfryw bethau ar sy in ymddangos in hawdd▪ ac in rhyngu bódd i'ch meddwl chwi in fwyaf, and pa beth bynnag a orchymmynant i chwi, a hynny heb fôd yngwrthwyneb i Air Duw, and sy ynddo ei hun in onest ac in gyfreithlon; canys os gorchymynnant i chwi ddywedyd celwydd, tyngu, neu arfer pwysau a mesurau anghywir, y rhai ydynt bethau y mae Duw in ei gwarafun, ni ddylech chwi in hynny mor ufyddhau iw gorchymynion hwynt, and dywedyd wrthynt, fall y dywedodd Joseph wrth ei Feistres; Pa fodd y gallaf wneuthur y mawrddrwg hwn, a phechu in erbyn Duw? Er bôd Joseph in wâs iw Feistr, er hynny ni fyddei ef in wâs i drachwantau ei Feistres.
3. Rhaid ich ufydd-dod fôd yn hollawl i bôb peth ar a ofynnant gennych; a hynny y mae 'r Apostol yn ei adrodd, Col. 3. 22. Y Gweision, medd ef, ufyddhewch ym mhob peth i'ch Meistreid, hynny yw, nid yn unic yn y cyfryw bethau ar sy yn ymddangos yn hawdd▪ ac yn rhyngu bódd i'ch meddwl chwi yn fwyaf, ond pa beth bynnag a orchymmynant i chwi, a hynny heb fôd yngwrthwyneb i Air Duw, ond sy ynddo ei hun yn onest ac yn gyfreithlon; canys os gorchymynnant i chwi ddywedyd celwydd, tyngu, neu arfer pwysau a mesurau anghywir, y rhai ydynt bethau y mae Duw yn ei gwarafun, ni ddylech chwi yn hynny mor ufyddhau iw gorchymynion hwynt, ond dywedyd wrthynt, fal y dywedodd Ioseph wrth ei Feistres; Pa fodd y gallaf wneuthur y mawrddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw? Er bôd Ioseph yn wâs iw Feistr, er hynny ni fyddei ef yn wâs i drachwantau ei Feistres.
II. Dyledswydd arall sy in perthyn i Weision yw, Diwydrwydd in dwyn gwaith a gorchwyl eu Meistreid i ben, heb ddim godechial, neu feddwl am eu hesmwythdra a'u pleser eu hunain; eithr megis ac y mae eu cryfder hwy a'u hamser in eiddo eu Meistreid, felly y dylent hwy osod allan eu cryfder a gwneuthur defnydd o'u holl amser in-gwasanaeth eu Meistred; eu holl amser, meddaf, oddieithr rhyw gyfran o hono o ran eu dirgel ddefosionau, in enwedigol eu Borevol a'u Prydnawnol Weddiau at Dduw; canys rhaid yw i Weision edrych am waith eu Meistr nefol, in gystal ac am waith eu Meistr daiarol, a gwneuthur cymmaint cydwybod o gyflawni eu dyledswydd iddo ef, ac iw Meistr in ôl y cnawd; canys mewn gwirionedd, yr Arglwydd yw 'r Meistr goreu, yr